Ail Weithdy Ysgolion Cynradd Dyffryn Nantlle
Cartref > Newyddion > Ail Weithdy Ysgolion Cynradd Dyffryn Nantlle
Pleser oedd cael dychwelyd i Ysgol Dyffryn Nantlle heddiw i gynnal yr ail weithdy gyda disgyblion cynradd Blwyddyn 6 dalgylch Dyffryn Nantlle a disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Nantlle.
Cafwyd diwrnod prysur a hwyliog o ddawnsio, actio a sgriptio o dan arweiniad Manon Wyn Williams, Mari Elen, Iwan Charles, Gwion Aled, Elan Elidyr a Lowri Cêt. Diolch i bob un ohonynt am gynnal y gweithdai.
Bydd y gweithdy olaf o dri yn cael ei gynnal ar y 1af o Orffennaf.