Cyhoeddi Carwyn!
Cartref > Newyddion > Cyhoeddi Carwyn!
‘Da ni wrth ein boddau fod ‘na aelod newydd wedi ymuno â ni ar y Tîm Rheoli yn Bara Caws fel Rheolwr Technegol.
Daeth Carwyn Rhys Williams atom ni gynta’ erioed ar brofiad gwaith nôl yn 2012, a mwynhau ei hun gymaint, bu’n gwirfoddoli efo’r Cwmni a helpu ar sawl taith cyn bwrw’i brentisiaeth swyddogol yn 2016. Ers hynny mae wedi gweithio ar 30 o gynyrchiadau Bara Caws, ac ar sawl cynhyrchiad gyda nifer fawr o gwmnïau eraill drwy Gymru fel gweithiwr llawrydd. Mae hefyd yn adnabyddus fel un o gerddorion amlycaf y sîn Gymraeg. Mae ganddo’r bersonoliaeth berffaith ar gyfer y Cwmni a bydd ei arbenigedd a’i sgiliau penodol yn gaffaeliad mawr i ni.
‘Da ni’n teimlo’n ffodus iawn ei fod wedi dewis dod i berthyn i deulu Bara Caws.‘Da ni’n edrych mlaen yn arw at gyd-weithio efo fo - mae o hefyd yn un da iawn am neud paned…