Diweddariad Cartref Newydd
Cartref > Newyddion > Diweddariad Cartref Newydd

Dyffryn Nantlle
Plîs, plîs, plîs.
Mae Theatr Bara Caws angen eich help! Rydym yn chwilio am le i’n cartref newydd.
Ers blynyddoedd bellach mae Bara Caws, cwmni theatr proffesiynol, cymunedol wedi bod yn trio’n gorau i sicrhau cartref newydd yn Nyffryn Nantlle, ond er ein hymdrechion, rydym wedi methu gwireddu hyn sawl gwaith oherwydd amgylchiadau oedd tu hwnt i’n rheolaeth.
Ond, rydym yn teimlo’n angerddol mai yn y dyffryn ‘rydan ni i fod, ac yn gwneud bob dim allwn ni i ddod atoch chi er mwyn creu cyfleon cyffrous yn y gymuned.
Felly, oes ganddoch chi dir, adeilad neu safle yn yr ardal fyddech chi’n ystyried ei werthu fel bod ni’n gallu sefydlu cartref newydd fyddai’n cynnwys gofod perfformio, gofod ymarfer a gofod aml bwrpas ar gyfer celf a llesiant. Byddai lle ynghanol y pentref yn ddelfrydol.
Plîs cysylltwch rhag blaen os fedrwch helpu, a dewch i ni greu theatr i’r gymuned, yn y gymuned, gyda’r gymuned.
Cysylltwch am sgwrs!
Caryl@theatrbaracaws.co.uk
neu Steve 01286 676 335