Er cof am Annette Bryn Parri

Cartref > Newyddion > Er cof am Annette Bryn Parri

ER COF AM ANNETTE BRYN PARRI

Roeddan ni’n ddigalon iawn o glywed y newyddion trist am yr annwyl Annette Bryn Parri.

Roedd Annette yn dod yn gyson i Bara Caws yn ystod yr ‘80au i hyfforddi’r actorion i ganu mewn sioeau cerddorol, gan gyfeilio mewn ambell gynhyrchiad hefyd. Mae ei chyfraniad i’r byd celfyddydol yn amhrisiadwy a bydd colled mawr ar ei hôl.

Pob cydymdeimlad i’r teulu.

Pob newyddion