Er cof am John Gwynedd

Cartref > Newyddion > Er cof am John Gwynedd

Cawsom ein syfrdannu’r diwrnod o’r blaen wrth glywed y newyddion trist am gymeriad oedd yn annwyl iawn i ni yma yn Bara Caws - John Gwynedd.

Bu’n aelod clos o’n teulu, yn aelod gwerthfawr o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr am dros 12 mlynedd ac yn Gadeirydd ffraeth a hwyliog am sawl blwyddyn. Roedd yn gymeriad hoffus a chyfeillgar, bob amser yn barod i wenu a chwerthin, ac yn dal i’n cefnogi drwy ddod i weld pob cynhyrchiad a bob tro’n bachu ar y cyfle i gael sgwrs.

Bydd y golled yn un fawr i ni yma, i’w gymuned yn Waunfawr lle oedd ar gael i bawb oedd angen gair o gyngor neu gefnogaeth, ond yn fwy na dim i’w deulu, ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda nhw.

Rhyfedd o fyd, ond roedd Osian yma’n gweithio gyda ni yn Bara Caws pan fu John farw, ac wedi cytuno i chwarae rhan allweddol yn ein cynhyrchiad nesaf, a John wrth ei fodd. Mae’n braf teimlo bod cyswllt uniongyrchol fel hyn yn para rhyngom ni.

John - fydd hi’n chwith ar d’ôl di.

Pob newyddion