Er cof am Marged Esli

Cartref > Newyddion > Er cof am Marged Esli

Er cof am Marged Esli

Roedda ni’n drist o glywed am farwolaeth un o’n hactorion adnabyddus dros y penwythnos, yr annwyl Marged Esli. Bu’n gweithio fel cyflwynydd, fel actor ar lwyfan a theledu, gan gyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed. Ar ddechrau’r ‘80au daeth i weithio at Bara Caws ar y sioe Haf ’83.

Yn fwyaf diweddar gwnaeth gyfraniad mawr i ysgolion ei hardal enedigol, Ynys Môn, fel athrawes, gan gyhoeddi ei bywgraffiad, Ro’n i’n arfer bod yn Rhywun yn 2023.

Bydd y sector celfyddydol cyfan yn cofio’n annwyl amdani.

(Llun - Fraser Cains a Marged Elsi, Haf '83).

Pob newyddion