Er cof am Siôn Gregory
Cartref > Newyddion > Er cof am Siôn Gregory

Roedda ni’n drist iawn o glywed am farwolaeth Siôn Gregory. Roedd Siôn wedi bod yn un o garedigion y theatr yng Nghymru ers degawdau, gan weithio fel Technegydd Sain yn bennaf, yn yr hen Theatr Gwynedd, am flynyddoedd. Wedi hynny bu’n gweithio fel technegydd llawrydd ac fel darlithydd yng Ngholeg Menai gan fentora nifer o dechnegwyr ifanc Cymraeg, gan gynnwys Carwyn Rhys Williams sydd wedi ei benodi i staff Bara Caws ddechrau’r flwyddyn. Mae ein dyled fel Cwmni, ac fel aelodau o’r sector theatrig yng Nghymru, i Siôn yn fawr a byddwn yn ei gofio’n annwyl iawn.