Theatr Fforwm
Cartref > Newyddion > Theatr Fforwm

HYFFORDDIANT THEATR FFORWM
Ti isio ymestyn dy sgiliau neu ddysgu sgil newydd? Mae Bara Caws yn cynnal tridiau o hyfforddiant mewn Theatr Fforwm, dan arweiniad yr arbenigwraig Gill Dowsett.
Mae Theatr Fforwm yn adnodd gwych sy’n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael ag amcanion cymdeithasol, ac wrth edrych tua’r dyfodol ‘da ni am ddatblygu’r gwasanaeth gallwn ni ei gynnig ym Maes Iechyd a Lles, ac mae hwn yn ddull gwych i wneud hyn mewn modd creadigol.
Bydd Bara Caws yn talu am y tri diwrnod o hyfforddiant, yr unig beth fydd angen i chdi neud (os oes diddordeb gen ti), ydi bod yn bresennol am y tri diwrnod.
Dydd Gwener, Sadwrn a Sul 9, 10 ac 11 Mai 2025.
9.00 yb - 5.00 yh yn Theatr Bara Caws, Uned A1, Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.
Rhagor o wybodaeth am Theatr Fforwm:
Byddi’n derbyn hyfforddiant er mwyn medru arwain sesiynau ar Theatr Fforwm, dull sy’n cael ei ddefnyddio i weithio gyda chynulleidfaoedd o bob math ac o bob oed. Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynyrchioli, neu sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lais i fynegi eu pryderon. Yn y pen draw byddi’n ymweld â ‘chymuned’ benodol i gyflwyno a thrafod testun sy’n uniongyrchol berthnasol i’r gynulleidfa honno. Bydd y gynulleidfa’n gwylio drama fer ble mae’r prif gymeriad yn dod ar draws ‘rhwystr’ sy’n amhosib iddo/iddi ei oresgyn. Fel arfer mae’r testun yn rhywbeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’r gynulleidfa, yn aml yn seiliedig ar brofiad bywyd sy’n gyffredin. Mae rhai o’r materion sy’n cael eu gwyntyllu yn cynnwys problemau teuluol, di-gartrefedd, cyflogaeth ac iechyd.
Wedi i’r perfformiad mae aelodau o’r gynulleidfa’n cael cyfle i ymuno â’r cast ar y llwyfan i gynnig sut arall gallai’r prif gymeriad fod wedi ymateb. Mae’r actorion yn archwilio’r canlyniadau yma ar y cŷd â’r gynulleidfa, gan gynnig gofod i gynnal trafodaeth theatrig ar y pwnc. Y gobaith ydi, unwaith y byddwch chi gyd wedi cael yr hyfforddiant yna byddwn yn gallu eich cyflogi wedyn i gynnal Theatr Forum ar ran Bara Caws gyda gwahanol gymunedau.
Felly mae’n gyfle gwych i ddysgu sgil newydd a gobeithio yn waith i’r dyfodol.
Mae ambell le ar ôl felly cyntaf i’r felin!
Cysylltwch rhag blaen efo Mari ar mari@theatrbaracaws.co.uk