3 Drama

Cartref > Sioeau > 3 Drama

3 DRAMA

Mae 4 awdur wedi eu comisiynu i ‘sgwennu pedair comedi/drama ysgafn yn sgil prosiect Sgen ti Syniad? (2) 

Bydd 3 yn teithio ym mis Mawrth ac Ebrill dan yr enw 3 Drama:-

Dishgled ‘da Del - Cai Llewelyn Evans 🎧

Wisgi - Carwyn Blayney 🥃

99'er - Ceri Ashe 🍦

 

CAST

3 awdur + 3 drama = 5 actor (9 cymeriad)! 

 

Byddwn yn croesawu Siôn Emyr a Mali O’Donnell nôl at y Cwmni; piciodd Mark Henry-Davies mewn am benwythnos o waith Y&D ar y dramâu; a dyma’r tro cyntaf bydd Elena Carys-Thomas a Gareth John Bale yn gweithio hefo ni. Bydd Gareth hefyd yn cyfarwyddo un o’r dramau. 

Ffrwyth llafur cynllun 'Sgen ti Syniad? yw hwn, cynllun sy’n rhoi cyfle gwych i ni weithio gyda nifer o ymarferwyr â phosib a rhoi llwyfan i ddoniau hen a newydd!

 

Bydd un o'r sioeau yn cael ei chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam:

Oes rhywun wedi gweld y Pernod King? - Mari Emlyn 🍸

Pob sioe