Cyhoeddi Awduron a Chast Sioe Glwb 2018

Home > News > Archive > Cyhoeddi Awduron a Chast Sioe Glwb 2018

‘Roedd lot o hwyl yma ddydd Gwener diwethaf wrth i griw ddod at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau ar gyfer y sioe glwb nesaf. A’r tro yma, yn lle gweithio ar sgript barod gan awdur, ‘da ni am fynd nôl at ddull gwreiddiol Bara Caws o weithredu, a’r cast gwallgof yma sydd wedi eu gwahodd i’w ‘sgwennu a’i pherfformio. Wrth gwrs, allwn ni ddim mentro gadael y cwbwl yn eu dwylo nhw, felly bydd y bonheddwr John Glyn Owen wrth law i gadw trefn arnynt…… gobeithio. Pwy ydyn nhw? Wel neb llai na:

  • Iwan Charles
  • Manon Elis
  • Llyr Evans
  • Gwenno Ellis Hodgkins

Bydd Linda yn y swyddfa yn trefnu’r daith yn fuan iawn, felly os hoffech weld y sioe glwb hon yn cael ei pherfformio yn eich ardal chi yna plîs cysylltwch gyda hi ar: 01286 676 335 / linda@theatrbaracaws.com

people round a table reading a script

All news