Er Cof am Christine Pritchard
Home > News > Archive > Er Cof am Christine Pritchard
(Welsh only)
Collodd y theatr yng Nghymru un o’i sêr disgleiriaf eleni pan fu farw Christine Pritchard. Roedd yn wyneb amlwg nid yn unig ar ein llwyfannau, ond hefyd ar y teledu a’r radio. Cafodd ei geni yng Nghaernarfon, ac yn ymfalchïo ei bod yn Gofi Dre, a phan yn yr ysgol, cafodd wahoddiad i ymuno â chwmni ‘rep’ Wilbert Lloyd Robert ym Mangor. Aeth yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Bryste cyn cymhwyso fel athrawes, ac mae’n debyg mai hi oedd un o’r graddedigion cyntaf i ymuno â’r VSO gan dreulio blwyddyn ar ynys St. Kitts yn y Caribî. Bu’n dysgu am gyfnod byr yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru lle dechreuodd ei gyrfa hynod lwyddiannus ac amrywiol.
Bu’n gweithio gyda holl gwmnïau theatr blaenllaw Cymru, gan gynnwys Theatr yr Ymylon, Cwmni Theatr Cymru, Dalier Sylw, Bara Caws, ac roedd yn un sylfaenwyr Theatr Pena. Roedd hi hefyd yn wyneb poblogaidd ar y cyfryngau gan chwarae rhannau amlwg mewn cyfresi fel Dinas, Talcen Caled, Rala Rwdins, 35 Diwrnod a Cara Fi. Roedd ei hymrwymiad i’w chrefft a’i ethos gwaith heb eu hail, a doedd hi byth yn rhoi’r gorau i gwestiynnu ac i archwilio er mwyn cyflwyno’r perfformiad gorau posib. Bu’n gweithio gyda Bara Caws sawl gwaith dros y blynyddoedd gan gymryd rhan yn Croesi’r Rubicon, Dulce Domum ac yn fwyaf diweddar, Dim Byd Ynni, ein cynhyrchiad yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.
Gwelais hi am y tro cyntaf ar lwyfan yn chwarae Blodeuwedd nôl yn y 1970au hwyr a finnau dal yn yr ysgol, a mi gofiaf ei phresenoldeb trawiadol hyd heddiw. Wrth i ‘ngyrfa i ddatblygu bûm yn ddigon ffodus i weithio gyda hi ar sawl achlysur gan dreulio oriau difyr yn ei chwmni – ar ac oddi ar y llwyfan.
Roedd Christine yn un o’r bobl unigryw hynny y mae rhywun weithiau’n ddigon ffodus i daro arnynt ar daith bywyd, gyda phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod yn tystio i’w chyfeillgarwch, ei brwdfrydedd, ei hegni a’i synnwyr digrifwch. Cofiwn yn annwyl iawn amdani.