Marchnata a Gwefannau
Home > News > Archive > Marchnata a Gwefannau
(Welsh only)
Ymgynghorydd Marchnata
Teitl y Swydd: Ymgynghorydd Marchnata a Gwefannau Cymeithasol
Graddfa Cyflog: I'w drafod
Lleoliad: Gweithio o bell neu o gartref Theatr Bara Caws ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon yn ôl yr angen.
Oriau Gwaith: I'w trafod
Mae Cwmni Theatr Bara Caws wedi bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg o bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers dros 45 o flynyddoedd.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Marchnata a Gwefannau Cymdeithasol ac felly'n chwilio am unigolyn sy'n meddu ar sgiliau marchnata, cyfathrebu, a threfnu rhagorol.
Dyma gyfle gwych (a phrin!) i'r ymgeisydd llwyddianus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma.
Disgwylir i'r person a benodir ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
I fynegi diddordeb ac i dderbyn y swydd ddisgrifiad llawn, cysylltwch â Stephen drwy ffonio 01286 676 335, neu e-bost ar steve@theatrbaracaws.co.uk
Y dyddiad cau yw Mehefin 16, 2023.