Amdanom

Cartref > Amdanom

Cyrraedd Calon Cymunedau 

Cwmni theatr proffesiynol, cymunedol, wedi ei leoli yng Ngwynedd, yw Bara Caws. 

 

Theatr wedi ei wreiddio yn y gymuned 

Cymuned sydd wrth wraidd gweledigaeth y Cwmni. 

Dros y degawdau, mae’r Cwmni wedi magu perthynas glos gyda’i chynulleidfa – o’r Rifiws i’r Sioeau Clwb i’r dramâu annisgwyl, a hynny mewn amryw o leoliadau. Y capel, y dafarn, y ganolfan gymunedol, a’r theatr leol. 

Mae Bara Caws yn adanbod y gynulleidfa, a’r gynulleidfa’n adnabod Bara Caws. 

 

Mae’r drws ar agor...

'Sgen ti syniad? Neu awydd sgwrs i drafod y byd a’i betha’? 

Tyd draw am banad, mae’r teciall yn berwi a drws Bara Caws wastad ar agor. 

pedwar logo gwahanol Theartr Bara caws