Amdanom
Cyrraedd Calon Cymunedau
Cwmni theatr proffesiynol, cymunedol, wedi ei leoli yng Ngwynedd, yw Bara Caws.
Theatr wedi ei wreiddio yn y gymuned
Cymuned sydd wrth wraidd gweledigaeth y Cwmni.
Dros y degawdau, mae’r Cwmni wedi magu perthynas glos gyda’i chynulleidfa – o’r Rifiws i’r Sioeau Clwb i’r dramâu annisgwyl, a hynny mewn amryw o leoliadau. Y capel, y dafarn, y ganolfan gymunedol, a’r theatr leol.
Mae Bara Caws yn adanbod y gynulleidfa, a’r gynulleidfa’n adnabod Bara Caws.
Mae’r drws ar agor...
'Sgen ti syniad? Neu awydd sgwrs i drafod y byd a’i betha’?
Tyd draw am banad, mae’r teciall yn berwi! A drws Bara Caws wastad ar agor.