Cyfleoedd
Gweithwyr Llawrydd
Rydym yn awyddus i dderbyn CV gweithwyr llarwydd fyddai'n gallu gweithio i'r cwmni yn y dyfodol.
Os ydych yn weithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol (actio, cyfarwyddo, coreograffi, dylunio set, gwisgoedd, technegol ayyb) cysylltwch ar e-bost yn cyflwyno eich hun ac atodwch CV i sylw: gwybodaeth@theatrbaracaws.co.uk
Byddwn yn cadw eich CV ar fas-data mewnol ac yn cysylltu pan fydd cyfleoedd i weithio hefo ni. Byddwn hefyd, gyda’ch caniatad, yn rhannu eich manylion gyda cwmniau eraill yn y maes pan fydd cyfleoedd posib yn codi.
Profiad gwaith
Am gyfleoedd profiad gwaith neu os hoffech anfon eich CV ymlaen: gwybodaeth@theatrbaracaws.co.uk
'Sgen ti Syniad?
Mae'r cynllun yma wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd (Sgen ti Syniad a 'Sgen ti Syniad 2) lle rydym yn rhoi galwad allan am syniadau newydd.
Os hoffet syniad o'r amrywiaeth sioeau mae'r cwmni wedi eu cyflwyno yn y gorffennol cymer olwg ar ein archif sioeau am Y Cloc, Yma, Cariad yn Oes y Gin, Ffenast Siop, a 1936 ('Sgen ti Syniad) a 3 Drama ('Sgen ti Syniad 2).
Rydym fel arfer yn gofyn am amlinelliad go gynhwysfawr ar un ochr o bapur A4, wedi ei 'sgwennu i ddim mwy na 3 actor (ond ceir ddyblu cymaint ag y lici di!), ac os bydd y syniad yn apelio bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o'n cynllun 'Drafft 1' sy'n ariannu'r prosiect cam wrth gam.
Cadwch olwg allan am newyddion ynglyn a'r 'Sgen ti Syniad nesaf.
Cynllun Drafft Cyntaf
Mae’r cwmni’n parhau â'i gynllun Drafft 1 ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os am ysgrifennu i'r Cwmni. Drwy’r cynllun hwn gallwn archwilio a chomisiynu gwaith newydd. Mantais y system i awdur yw ei fod yn cynnig cefnogaeth ariannol a phroffesiynol i unigolion, ac yn gwneud hynny mewn awyrgylch cefnogol di bwysau. Mantais y system i'r Cwmni yw ei fod yn anelu at sicrhau gweithiau safonol, perthnasol fydd yn eistedd yn daclus yn y rhaglen waith gan hefyd reoli risg ariannol.
Mae’r cynllun hwn wedi ei ddatblygu’n fanylach dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein cynllun Sgen ti Syniad? lle mae’r cwmni’n gofyn am syniadau am sgriptiau penodol.
Mae croeso i ti gysylltu os hoffet sgwrs neu ragor o fanylion: mari@theatrbaracaws.co.uk