Bwrdd Cyfarwyddwyr

Cartref > Amdanom > Bwrdd Cyfarwyddwyr

Ar hyn o bryd mae 9 unigolyn yn gwasanaethu fel cyfarwyddwyr ar Fwrdd Bara Caws. Penodwyd pob un oherwydd eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth o amcanion ac ethos y Cwmni, eu cefnogaeth i’r theatr yng Nghymru yn gyffredinol, a'u gallu i gyfrannu sgiliau arbenigol i’r Cwmni yn benodol. Mae pob aelod yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd, a hefyd yn aelodau o is-baneli sydd a chyfrifoldebau penodol addas i’w harbenigedd.

Cadeirydd Theatr Bara Caws - Ben Gregory

Cadeirydd 
- Ben Gregory


Daw Ben o Dredegar. Symudodd i Benygroes yn 1998 ac yn gweithio i Yr Orsaf. Mae Ben yn gyn Uwch Swyddog Cymuned gyda Grŵp Cynefin. Mae’n gwirfoddoli gyda nifer o grwpiau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn cynnwys Iwth Pen (clwb ieuenctid gwirfoddol), Dyffryn Nantlle 2020 (yn cynnwys grwpiau ffilm llwyddiannus, a dechrau clwb drama i’r ifanc yn Ionawr 2019), ac yn Lywodraethwyr Ysgol Bro Lleu. Mae’n un o sylfaenwyr Siop Griffiths Cyf, gyda chyfrifoldeb am godi arian.

Aelod o is-baneli – Cyllid, Cyfalaf/Cartref Newydd, Staffio a Chyflogaeth.

Is Gadeirydd Theatr Bara Caws - Gerwyn Williams

Is Gadeirydd - Gerwyn Williams


Golygydd Creadigol yng Ngwasg y Bwthyn, awdur a beirniad llenyddol. Cyn hynny, bu Gerwyn am flynyddoedd yn Athro yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor. Y mae wedi gwasanaethu ar amryw bwyllgorau a byrddau ym maes y celfyddydau, e.e. bwrdd ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru ac aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Aelod o is-baneli – Cyllid, Cyfalaf/Cartref Newydd, Artistig, Staffio a Chyflogaeth.

Siôn Blake - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Siôn Blake


Gradd yn y Gyfraith a Ffrangeg o CPC Aberystwyth. Myfyriwr Erasmus ym Mhrifysgol Rennes, Llydaw. Gweithio i gwmni Cyfreithwyr Pritchard Jones Lane LLP, Caernarfon.

Aelod o is-baneli – Cyllid, Cyfalaf/Cartref Newydd, Staffio a Chyflogaeth.

Alun Ffred Jones - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Alun Ffred Jones


Cyn Bennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug; cyn  gyflwynydd a newyddiadurwr gyda HTV; cyn gyfarwyddwr / cynhyrchydd gyda Ffilmiau’r Nant; cyn arweinydd Cyngor Gwynedd; cyn Aelod Cynulliad gan dreulio tair blynedd yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru’n Un; un o sylfaenwyr a chyn Gadeirydd Antur Nantlle. Bu iddo rhyddhau ei nofel gyntaf Gwynt y Dwyrain ym mis Awst 2023. Bu i’r nofel ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023.

Aelod o is-baneli – Cyllid, Cyfalaf/Cartref Newydd.

Mair Rowlands - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Mair Rowlands


Roedd Mair Rowlands yn Gynghorydd Sir yn Ward Menai Bangor rhwng 2012-2022, ac mae hi’n gyn Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc a Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Mae hi bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Undeb Bangor - sef Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, lle mae hi’n gyfrifol am arwain a rheoli’r elusen o ddydd i ddydd, a gweithio’n agos gyda arweinwyr ifanc.

Aelod o is-baneli – Staffio a Chyflogaeth, ‘Buddies’ y Bwrdd.

Mared Llywelyn - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Mared Llywelyn


Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Pen y Bont ar Ogwr yn 2017. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno, ffurfiodd Cwmni Tebot gyda’i ffrindiau - cwmni amatur sy’n awyddus i ddiddanu eu cymuned drwy berfformio eu gwaith gwreiddiol. Ers sefydlu’r Cwmni, maent wedi gweithio ar y cyd â Chwmni Theatr Bara Caws drwy ysgrifennu’r Rifiw hwyliog Costa Byw. Bu Mared hefyd yn cydweithio â Bara Caws a Theatr Ieuenctid yr Urdd gyda’r sioe Aberhenfelen, roedd yn un o’r tair dramodydd â ysgrifennodd y sioe. Yn ddiweddar y cynhyrchiad tairieithog Taigh/Tŷ/Teach.

Mae hi wedi cyfieithu’r ddrama An Oak Tree / Derwen i Gwmni Invertigo, a teithiodd y ddrama o amgylch theatrau Cymru yn ystod Tachwedd 2018. Mae hi wedi cydweithio gydag Arad Goch ar y ddrama theatr fforwm Hudo a'r ddrama Croesi'r Llinell. ar gyfer ysgolion. Yng Ngorffennaf 2019 enillodd Hudo/Tempted wobr Celfyddydau a Busnes Cymru.

Yn ddiweddar cydweithiodd gyda Cwmni'r Frân Wen ar y ddrama lwyfan Croendena, a bu'n perfformio yn Parti Priodas, Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Mared yn gweithio fel Swyddog Addysg a Gwirfoddoli yn Plas Carmel, Anelog.

Aelod o is-baneli –Cyfalaf/Cartref Newydd, Artistig.

Ifan Pleming - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Ifan Pleming


‘Ifan Pleming ydi’r enw, yn wreiddiol o Llithfaen ger Pwllheli. Ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd yn astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith a chyflawni gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol mi ges waith yn cyfieithu i Llywodraeth Cymru. Dwi bellach wedi symud yn ôl i Lithfaen ac yn gweithio fel cyfieithydd yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon.

Mae gen i ddiddordeb mawr yn y celfyddydau ac wedi bod yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd, Aberhafren, am gyfnod. Dwi’n mwynhau ysgrifennu caneuon ac wedi cyhoeddi ambell un. Yn ddiweddar iawn, dwi wedi dechrau PhD yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes morwrol a hanes lleol.
Dwi’n falch iawn o gael y cyfle i fod yn aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws, ac er mai rhywbeth cymharol newydd i mi ydi byd y ddrama, a mod i’n fwy cyfarwydd â rhyddiaeth, mae’n fraint cael bod o gymorth i sicrhau bod adnodd cymunedol mor bwysig a Theatr Bara Caws yn parhau i ddatblygu gwaith cyfrwng Cymraeg gwreiddiol, perthnasol a ffraeth o’r ansawdd uchaf.

Mae gan i Barlys yr Ymenydd – Cerebral Palsy – sy’n golygu na alla i gerdded heb gymorth ffrâm gerdded neu faglau – gobeithio bod modd i mi wneud cyfraniad yn hyn o beth wrth i Bara Caws baratoi rhaglen artistig yn u dyfodol a  sicrhau hygyrchedd yn y cartref newydd’.

Hayden Jones - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

Haydn Jones


Gyda dros 16 mlynedd o brofiad gwaith yn y sectorau cymdeithasol ac amgylcheddol, rwy’n arweinydd angerddol a strategol sy’n ffynnu ar greu effaith gadarnhaol a meithrin cydweithio. Fel Prif Swyddog Cymunedoli Cyf, rwy’n goruchwylio llwyfan arloesol a chyffrous sy’n cysylltu a chefnogi mentrau cymunedol Gwynedd, gan wella eu cynaliadwyedd a’u gwydnwch. Rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y rhanbarth, a dod â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol i’r tîm.

Cyn ymuno â Cymunedoli Cyf, roeddwn yn Uwch Reolwr yn Antur Waunfawr, menter gymdeithasol flaenllaw sy'n darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu. Rheolais dri busnes gwyrdd a oedd yn darparu gwasanaethau a chynhyrchion o ansawdd uchel. Fe wnes i hefyd ysgogi fy sgiliau mewn arweinyddiaeth ryngbersonol, cymorth technegol, a chynllunio strategol i sicrhau gweithrediad llyfn ac effeithlon y busnesau, a boddhad a grymuso'r staff a'r cwsmeriaid.

Elenid Roberts - Aelod o Fwrdd Theatr Bara Caws

ELENID ROBERTS


Yn wreiddiol o Faentwrog nawr yn byw a gweithio ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Mae ganddi radd Dosbarth Cyntaf mewn Drama a Pherfformio o Brifysgol Caeredin, a chefndir yn gweithio i gwmnïau teledu, ac fel rheolwr prosiect i gwmni digwyddiadau ym Mryste. 

Mae hi nawr yn Rheolwr Prosiect Cymru Fydd i fenter gymdeithasol Yr Orsaf, yn cydlynu prosiectau canolfan fentergarwch i bobl ifanc, lle cyd-weithio, trafnidiaeth gymunedol, a gweithgareddau cymdeithasu i bobl dros 60oed. Mae hi hefyd yn rhedeg gweithdai clwb drama i blant Blwyddyn 4 i Blwyddn 7 o’r ardal yn wythnosol. 

Wedi edmygu gwaith Bara Caws ers yn blentyn, mae hi wrth ei bodd cael bod yn aelod o’r bwrdd ac yn edrych ymlaen at eu cymhorthi a'i cefnogi.