Polisi Preifatrwydd

Cartref > Polisi Preifatrwydd

Mae Theatr Bara Caws wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd gan sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych chi’n ei ddarparu i ni yn cael ei gadw’n ddiogel, gan gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau byddwn ni’n cyfeirio chi i ddarllen ein PolisiPreifatrwydd. Os ydych chi’n anghytuno â’r arferion a ddisgrifir yn ein Polisi Preifatrwyddrhaid i chi beidio â defnyddio ein gwasanaethau a’n gwefannau.

Cymerwn pob gofal posib i sicrhau bod y data personol rydych chi’n ei ddarparu i ni yncael ei brosesu a’i storio (lle’n briodol) mor ddiogel a phosib, boed hynny mewn fformat ddigidol neu gopi caled.

Pa fath o wybodaeth rydym ni’n ei gasglu?
Er mwyn ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth i chi ac ymateb i’ch ymholiadau byddwn yncasglu data personol gennych chi. Gall y data personol yma gynnwys gwybodaeth megis eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad.

Sail Cyfreithiol dros Brosesu Data
Rydym ni’n prosesu data gan amlaf wrth i chi defnyddio ein gwasanaethau.

Tynnu Lluniau a Ffilmio:
Rydym ni’n gofyn am ganiatâd gan riant / gwarchodwr cyn i ni dynnu llun neu ffilmioplentyn yn cymryd rhan neu’n mynychu ein gweithgareddau ac yn esbonio sut y byddwnyn defnyddio’r llun neu ffilm.

Cwcis a Chasglu Ystadegau am Ddefnydd ein Gwefannau:
Mae’r rhan fwyaf o’r cwcis a ddefnyddiwn yn angenrheidiol er mwyn i’n gwefannau ni weithio’n gywir.
Rydym ni hefyd yn defnyddio gwasanaeth Google Analytics er mwyn darparu ystadegau ini am y ffordd mae ein gwefan yn cael eu defnyddio gan ymwelwyr. Caiff hyn ei gyflawnidrwy osod cwcis. Noder ein bod ni’n gofyn am eich caniatâd i osod cwcis wrth i chi ymweld â’n gwefan ni am y tro cyntaf, ac heb eich caniatâd, ni fydd cwcis Google Analytics yn caeleu gosod.

Ein Rhestr E-bostio:
Rydym ni’n defnyddio gwasanaeth MailChimp er mwyn gweinyddu ein rhestr e-bostio ganyrru e-byst i’n tanysgrifwyr am newyddion a digwyddiadau. Ni fyddwn ni’n gyrru e-byst o’rmath yma i chi oni bai eich bod chi wedi optio mewn i’w derbyn. Mae modd i chi ddaddanysgrifio ar unrhyw amser drwy glicio’r ddolen i wneud hynny sy’n ymddangos ar waelod pob e-bost anfonwyd drwy MailChimp neu drwy gysylltu â ni.

Hawliau allweddol yn ôl GDPR
Mae GDPR yn rhoi yr hawl i chi ofyn am weld y wybodaeth bersonol ‘rydym yn ei ddalarnoch chi. Byddwn yn cydymffurfio â’r ceisiadau hyn o fewn mis (oni bai bod amgylchiadau yn ein rhwystro ni rhag gwneud e.e. bod yna reswm cyfreithiol am beidio gwneud).

Diweddaru a Dileu eich Data Personol:
Dylech ofyn i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi e.e. os ydych chi’n newid eich enw neu’ch cyfeiriad neu rif ffôn.

Gallwch ofyn i ni ddileu unrhyw wybodaeth rydym yn ei ddal amdanoch chi ar unrhywadeg. Byddwn yn gwneud hyn yn unol â chyfreithiau cymwys Cymru a Lloegr a deddfau a rheoliadau’r UE, GDPR.


Byddwn ddim ond yn cadw gwybodaeth am y cyfnod sydd ei angen o ran y gwasanaethau yr ydych wedi holi amdanynt, neu yr ydym wedi cytuno i’w darparu, neu i fodloni gofynion cyfreithiol.

Darganfod mwy am eich hawliau o dan ddeddf GDPR a’ch hawl i gyflwyno cwyn
Mae modd darganfod mwy am eich hawliau yn ôl GDPR drwy ymweld â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (DU).

Manylion Cyswllt
Stephen Owen Williams
Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
steve@theatrbaracaws.co.uk
Theatr Bara Caws, Uned A1, Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.

Mae’r Polisi yma yn ddogfen fyw gaiff ei hadolygu yn flynyddol er mwyn ei chadarnhau neu’i datblygu.

Cytunwyd ar y Polisi Preifatrwydd hwn ar – 13eg o Fawrth, 2024

Arwyddwyd
Ben Gregory,
Cadeirydd

Polisi Preifatrwydd (pdf)