Nawdd
Cartref > Nawdd
Ers dros pedair deg pump mlynedd bellach mae Theatr Bara Caws wedi bod yn darparu gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad ledled Cymru. ‘Rydym yn cynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf, dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru, a chalonnau’r Cymry.
Yng Nghaernarfon mae cartref y Cwmni, ond drwy deithio mor eang mae cyrhaeddiad ein buddiolwyr yn ymestyn ymhell tu hwnt i ffiniau Gwynedd, gan gyrraedd pobl na fyddai fel arall yn cael mwynhau profiadau theatrig byw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae dros 9000 o bobl wedi mynychu ein cynyrchiadau mewn canolfannau o bob math, yn neuaddau pentref, yn theatrau, yn glybiau a thafarndai, ac yn yr awyr agored.
‘Rydym yn cyflogi oddeutu 40 o ymarferwyr llawrydd ar gyfartaledd bob blwyddyn, ac yn cynnig hyfforddiant a mentoriaeth i brentisiaid technegol ifanc er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru.
Fel elusen gofrestredig (Rhif Elusen – 1062896) ’rydym yn dibynnu ar gymorth gan gefnogwyr, noddwyr a chyllidwyr – DIOLCH I BAWB SYDD EISOES YN EIN CEFNOGI – ac yn sgil eich cyfraniad chi gallwn barhau i wireddu ein huchelgais ac ymestyn amcanion y Cwmni’n fwy fyth.
Boed yn gyfraniadau bach neu mawr, rydym yn ddiolchgar iawn o bob rhodd. Gallwch gyfrannu at ein gwaith drwy rodd ariannol. Cliciwch yma i dalu arlein yn ddiogel - Local Giving Bara Caws
DROS DECST
Gallwch gyfrannu drwy yrru neges testun:-
I gyfrannu £5 tecstiwch
BARACAWS 5 i 70085
I gyfrannu £10 tecstiwch
BARACAWS 10 i 70085
Bydd y neges yn costio yr un faint a'r rhodd, yn ogystal a phris un tecst arferol.
Byddwch hefyd yn cytuno i glywed rhagor gennym am gynyrchiadau ac am newyddion diweddaraf y cwmni
Os hoffech gyfrannu ond ddim am glywed rhagor, anfonwch at BARACAWSNOINFO
HYSBYSEBU
Rydym yn cynhyrchu rhaglen ar gyfer pob cynhyrchiad sy'n teithio drwy Gymru gyd, ac yn croesawu hysbysebion o bob math. Beth am fanteisio ar hyn i godi’ch proffil ac i gyrraedd eich cynulleidfa darged?
Os hoffech wybod rhagor am y Cwmni ac am y gwahanol ffyrdd y gallwch gyfrannu at ein gwaith, cysylltwch â steve@theatrbaracaws.co.uk / 01286 675 869

