Ar Geinioga'
Cartref > Sioeau > Ar Geinioga'
Ar Geinioga'
Gan Manon Wyn Williams
1884. Gwireddwyd dymuniad Owain Glyndŵr bum can mlynedd ynghynt i sefydlu dwy Brifysgol yng Nghymru - un yn y de a’r llall yn y gogledd - ac agorwyd drysau Coleg Prifysgol Gogledd Cymru am y tro cyntaf yn hen westy’r Penrhyn Arms ym Mangor.
Wrth y llyw roedd Gwyddel ifanc saith ar hugain oed. Fe ymroes ei fywyd i waith y brifysgol am dros ddeugain mlynedd gan gofleidio’r bywyd a’r diwylliant Cymreig o’i amgylch. Ef, yn anad un dyn arall, oedd yn gyfrifol am dwf a datblygiad y sefydliad yn ogystal â’i arwain drwy sawl storm.
Harry Reichel, Prifathro cyntaf Coleg y Gogledd, sy’n adrodd hanes sefydlu’r brifysgol a hynny ar geiniogau prin chwarelwyr a ffermwyr yr ardal.
Actor - Llion Williams
Cyfarwyddo - Betsan Llwyd
Y DAITH A MANYLION TOCYNNAU
Mawrth 26/05/26
Mercher 27/05/26
Iau 28/05/26
7:30 yh
Siambr y Cyngor, Prifysgol Bangor
🎟️ Tocynnau
Iau 04/06/26
Cell B, Blaenau Ffestiniog
🎟️ Tocynnau
Gwener 05/06/26
Capel Pencaenewydd, Pwllheli
🎟️ Tocynnau
Sadwrn 06/06/26
Theatr Twm o'r Nant, Dinbych
Gaynor Morgan Rees - 01745 812 349 neu yn Siop Clwyd