Arlwy yn ystod Covid-19 August 3, 2020

Cartref > Newyddion > Archif > Arlwy yn ystod Covid-19 August 3, 2020

Mae’r misoedd dwytha ‘ma wedi golygu bod ein cynlluniau ni ar gyfer gweddill y flwyddyn wedi newid. Gewn ni ddim ymarfer hefo’n gilydd heb sôn am deithio ar hyn o bryd, ond ‘da ni heb fod yn llaesu dwylo ‘chwaith.

  • Da ni wedi cyflwyno perfformiad rhithiol llwyddiannus o Gair o Gariad gyda Carwyn Jones a Lleuwen Steffan
  • Drwy’n cynllun Llwyfan Dros Dro ‘da ni wedi rhoi gwaith i nifer o weithwyr llawrydd hyd yn hyn.
  • Mae Cwmni 303 a’r cyfarwyddwr Iwan John, wedi bod wrthi’n gweithio ar sgript y sioe glwb newydd Dawel Nos, ac er na fyddwn, mwy na thebyg, yn medru ei theithio’r ‘Dolig yma ‘da ni’n gobeithio cynnal darlleniad agored ohoni ar wê. Bydd mwy o fanylion nes ‘mlaen.
  • Da ni wedi cychwyn ar y gwaith o baratoi sioe newydd sbon – sgript fydd wedi ei chyd-sgwennu gan y cast a’r dramodydd Mared Llewelyn.
  • Mae’r Hen Bostar Bob Dydd wedi denu dipyn o sylw ac wedi sbarduno lot o atgofion, a felly hefyd y Trac Bob Hyn a Hyn.
  • Da ni hefyd ar fin/wedi cyhoeddi galwad am sgriptiau i 1 neu 2 o bobl ar gyfer awduron gaiff eu cefnogi drwy’n Cynllun Drafft 1af.

Pob newyddion