Chwilio am aelodau Bwrdd newydd
Cartref > Newyddion > Archif > Chwilio am aelodau Bwrdd newydd
'Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno å'r Bwrdd Cyfarwyddwyr!
Mae Cwmni Theatr Bara Caws yn teithio theatr fyw gyffrous o amgylch Cymru ac yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Rydym yn awyddus i benodi pobl fydd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd cynyddol amrywiol ac i adlewyrchur amrywiaeth eang o gymunedau syn bodoli yng Nghymru.
Mae hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y celfyddydau yn greiddiol ir Cwmni, felly rydym yn crosawu ceisiadau gan bobl o bob sector on cymuned, ar draws pob nodwedd warchodedig, gan gynnwys pobl o liw a phobl o hunaniaethau Du, Asiaidd neu o gefndiroedd ethnig arall, unigolion LHDT+ a/neu cwiar, byddar a/neu anabl, niwroamrywiol, unigolion sydd yn byw gyda salwch hir-dymor, iechyd meddwl, neu o gefndir incwm isel a dysgwyr yr iaith.
Rydym yn awyddus i groesawu pawb sydd a diddordeb mewn cyfrannu at y cam nesaf yn nablygiad y Cwmni unigryw yma.
Gwneud cais:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch:
Steve 01286 676 335 neu steve@theatrbaracaws.co.uk
Dyddiad cau: 07-05-24
Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig neu anghenion o ran mynediad.