Cofio Iola

Cartref > Newyddion > Archif > Cofio Iola

“Teg dweud, dybiwn ni, heb Iola fyddai Bara Caws ddim yn bod, a heb Bara Caws byddai tirwedd y theatr yng Nghymru wedi datblygu’n un tra gwahanol.

Bu i rai o aelodau presennol y Cwmni gyd-weithio â hi am flynyddoedd, ar gynyrchiadau cofiadwy fel Bargen a Bynsan Binc, ond o’m rhan i, gweld y criw gwreiddiol yn cyflwyno Hwyliau’n Codi yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddiwedd y 1970au agorodd fy llygaid i bosibiliadau gwirioneddol gyffrous theatr Gymraeg, a pherfformiad Iola wedi serio ar fy nghof.

Bu’n gefnogol i waith y Cwmni dros y degawdau, a’r galon yn curo’n gyflymach bob tro y byddai yn y gynulleidfa – yn feirniad craff, gonest, gwrthrychol a deallus. Y tro diwethaf i mi gael sgwrs iawn hefo hi oedd yn Pontio yn gynharach eleni, hithau’n fy holi’n dwll a’n gwrando’n astud wrth i ni drafod rhai o ddyheadau Bara Caws ar gyfer y blynyddoedd nesaf, a’r ‘pam’ a’r ‘sut’ yn greiddiol i’w meddylfryd am y theatr yng Nghymru yn gyffredinol.

Diolch am dy weledigaeth, dy ysbrydoliaeth a dy gefnogaeth bob tro.”

Betsan Llwyd 


“Rebel oedd Iola. Dynes oedd yn malio, yn enwedig am y Gymraeg, y theatr a gwleidyddiaeth ac efo’i meddwl praff a’i hiwmor unigryw, yn ei helfen yn sbarduno trafodaeth.

Aeth i garchar am weithredu dros ail iaith a fabwysiadodd yn angerddol a bu’n un o sylfaenwyr cwmni theatr arloesol Bara Caws oedd â’r dyhead i newid pethau yng Nghymru. Cynigiwyd arlwy gyffrous oedd yn herio’r drefn gan wneud y theatr Gymraeg yn fwy perthnasol i fywydau pobol yng Ngwynedd a thu hwnt, ac yn galon i hyn oll oedd perfformiadau syfrdanol Iola a’i dyfeisgarwch fel awdur a chyfarwyddwraig. Trafod syniadau oedd ei phethau, wastad efo rhywbeth annisgwyl i’w daflu i mewn i’r pair i herio a chreu deialog allai ddatblygu’n ddadl danbaid ar adegau ond yn egni cadarnhaol difyr bob amser. Gyda’i meddwl treiddgar dadansoddol, roedd yn cwestiynu popeth i geisio deall cymlethdodau dyrys a doniol ein hoes fel y gallai uniaethu efo a chefnogi pobol oedd â safbwyntiau mor wahanol. Diolch am fod yn gyfaill ddi-hafal, yn ysbrydoliaeth ac yn hwyl – bu’n fraint! Fydd y byd na Chymru fyth r’un fath heb rebel a gyfoethogodd cymaint o fywydau. Diolch Iola.”

Sioned Huws 


“Gweld Iola gyntaf pan o’n i’n fyfyriwr yn Aberystwyth yn y chwedegau. Dyna lle ‘roedd hi’n sefyll y tu allan i gynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd Talybont, yn dosbarthu taflenni, yn ei chrys-T gwyn a thafod y ddraig goch arno. ‘Roedd hi’n hyderus, herfeiddiol…a hardd! Geneth efo tân yn ei  chalon – fel ei mam, yr ymgyrchwraig  danllyd dros yr iaith, Mrs. Millicent Gregory.

Ychydig flynyddoedd wedyn, a hithau bellach yn dechrau gwneud gyrfa actio iddi hi ei hun, dyma ddod ar ei thraws yn y Gogledd – ac nid Gogledd Cymru chwaith.  ‘Roedd Val a Sharon, Gwyn  Parry, Grey a minnau wrthi’n creu sioe newydd efo Theatr Antur, adran o Gwmni Theatr Cymru. Ar yr un pryd ‘roedd cynhyrchiad arall yn digwydd yn y Cwmni sef IFAS Y TRYC, gyda Stewart Jones, a phwy oedd yn actio artist a merch secsi yn hwnnw ond Iola! Cofio’r ddau gynhyrchiad yn ymarfer efo’i gilydd yn York o bob man – am y rheswm fod cynhyrchiad arall (eto fyth) Wilbert Lloyd Roberts, UNDER MILK WOOD, yn chwarae yn yr Yorkshire Playhouse, a chan fod rhai actorion yn chwarae rhannau mewn mwy nag un cynhyrchiad, ‘roedd pawb yn aros am wythnos mewn gwesty efo’n gilydd yn yr Hen Ogledd. ‘Roedd fel petai’r theatr Gymraeg i gyd wedi symud, bag and bagej, i Iorc! Sôn am hwyl…

Buan y daeth Iola ei hun yn rhan o griw theatrig y Gogledd, ac yn arbennig, y Theatr Antur dan Gwmni Theatr Cymru, gyda’r sioe CYMERWCH BWYTEWCH. ‘Roedd hyn yn arwyddocaol, achos allan o’r grŵp hwn y daeth gwreiddyn y syniad a’r personoliaethau fu’n gyfrifol am Theatr Bara Caws ei hun. Yn 1977 y bu hynny, wrth i Iola, Val, Sharon, Catrin a minnau ddod at ein gilydd i drafod y posibilrwydd o sefydlu cwmni theatr gymuned annibynnol, Theatr Bara Caws, fyddai’n herio’r sefydliad theatrig ar y pryd. Ac ‘roedd angen ei herio hefyd. Ar y cyfan ‘roedd y cynyrchiadau wedi mynd yn stêl a saff, ac yn amherthnasol i lawer o’r gynnulleidfa. Wrth gwrs, un peth oedd hefru a dadlau am y sefyllfa yn y Glôb ar nos Wener, peth arall oedd GWNEUD rhywbeth ynglŷn â fo. Ond, damia, ‘roeddan ni wedi gaddo sioe i Wil Morgan yn Theatr Clwyd yn ystod Eisteddfod Wrecsam, a rŵan ‘roedd rhaid i ni ‘sgwennu’r blydi peth…

Yn hen ysgol St. Paul’s, Bangor, dyna lle’r oeddem ni’r criw bach – ddaeth cyn hir yn griw mwy gyda Mari Gwilym, Dyfed Tomos, Bethan Meils, Dafydd Pierce, a’r hen Stewart Jones ei hun – yn yfed te a sbïo ar ein gilydd. ‘Roedd pwnc y sioe yn amlwg. ‘Doedd y peth yn cael ei flastio aton ni bob dydd a nos drwy’r wasg a’r cyfryngau – Jiwbilî’r Cwîn. “ God Save the Queen”, canai’r Sex Pistols. Ond pwy oedd yn mynd i chwarae rhan allweddol y Cwîn? Trodd pob llygaid at yr un fwyaf urddasol, cefnsyth ac ymddangosiadol aristocrataidd ohonom i gyd…Iola! A dyna fu. ‘Roedd yr olygfa lle’r oedd Ecweri amlieithog camdreigliedig Dyfed yn rhoi “build-up” anhygoel iddi gyda’r geiriau, “Mae’r Gwîn yn doooood!”, a hithau Iola yn camu yn araf ac awdurdodol ar y llwyfan, a rhyw edrychiad hir a sur ar y gynulleidfa, cyn eistedd i lawr yn ddelicet ar y pan toilet gyda ffwr gwyn brenhinol i gyfeiliant y geiriau gorseddol, “ Eistedded y Gwîn yn hedd y Cantîn”… ‘roedd yr olygfa honno bob amser yn tynnu’r lle i lawr. Mae rhai’n dal i’w chofio fel tase hi’n ddoe…

Aeth Iola yn ei blaen i wneud cyfraniad anhygoel i Bara Caws yn ei flynyddoedd cynnar. Ei gallu arbennig i greu cymeriad cryf a chredadwy ar lwyfan – o’r Wrach Haearn (fersiwn bara-cawsaidd o Mrs. Thatcher) i’r ddynes Fethodistaidd mewn storm ar y llong i America oedd yn dechrau amau ei ffydd yn HWYLIAU’N CODI. Yn yr un cynhyrchiad, Iola oedd y symbol Victoraidd Brittania, ond hefyd chwaraeai wraig morwr a fu farw ar y môr, a’r wraig druan, tra’n derbyn y newydd erchyll, yn gorfod dygymod efo’i mam ffwndrus siaradus. Golygfa ddirdynnol, ddoniol/drist wedi ei ‘sgwennu a’i hactio’n gampus gan ein dwy brif actores, Iola a Val, yn un o gynyrchiadau gorau blynyddoedd cynnar Bara Caws yn fy marn i.

A rŵan bod ein brenhines – a’n gwerinwraig herfeiddiol, Gymreig, dalentog, hwyliog, hael ac annwyl wedi mynd…cofiwn drwy’n dagrau am ei gwaddol amhrisiadwy i’r theatr ac i Gymru.”

Dyfan Roberts 


“Mi gefais i’r fraint o gyd-actio efo Iola ar sawl achlysur, boed ar lwyfan neu deledu, a phob tro, mi fyddwn yn rhyfeddu at ei dawn aruthrol. Serch hynny, yr hyn a erys bennaf yn y cof amdani oedd y wên lydan ar ei hwyneb siriol, ac yna’r chwerthiniad direidus a hynod heintus hwnnw.”

Mei Jones


“Un o hoelion wyth y Theatr yng Nghymru oedd Iola. Roedd ei chyfraniad yn amhrisiadwy i’r broses o osod y sylfaen i’r grefft a’r twf a fu yn hanes y theatr Gymreig ers y saithdegau. Yn Gymraes i’r carn ac yn lladmerydd dros gyfiawnder a chydraddoldeb mewn sawl maes ac achos. Bu’n selog i’r theatr hyd y diwedd gan fynychu a chefnogi cynyrchiadau hyd yn oed pan nad oedd yn ddigon cryf i deithio ei hun. Fe wyddai pawb ohonom os oedd Iola wedi ei phlesio ein bod wedi gwneud joban go lew ohoni. Diolch am dy holl gefnogaeth Iola . . . a ‘Nos Da Nawr’ . . . “

Cefin Roberts 


“Mae dros ddeugain mlynedd ers i Iola a finne dreulio prynhawn gyda’n gilydd un Chwefror diflas yn y Ceffyl Du, Caerfyrddin. ‘Roeddem wedi gorfod canslo’r perfformiad nos o ddrama ar daith oherwydd diffyg cynulleidfa. Ond dros beint soniodd Iola am gynlluniau cyffrous criw o actorion i gychwyn cwmni theatr newydd sbon, arloesol a pherthnasol… ac er mawr syndod fe ofynnodd i minnau os hoffwn i fod yn rhan o’r fenter. “Wrth gwrs Iola…” – a dyna gychwyn ar antur anhygoel Bara Caws… a pharhau’r antur fythgofiadwy o gyfeillgarwch agos a barodd oes. Gweld d’eisiau di Iola. Mae’n chwith iawn ar dy ôl.”

Catrin Edwards 


“Iola … ‘roedd hi’n berson arbennig iawn, a bob tro dwi’n meddwl amdani dwi wastad yn gweld ei gwên ddireidus.  Mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod pryd nes i ddod i adnabod Iola, Val, Dyfan, Catrin, a Mei am y tro cyntaf.  Mi oeddwn i wedi gweithio gyda’r criw yn rhinwedd fy swydd gyda Chwmni Theatr Cymru cyn iddynt sefydlu Bara Caws, a chyn i mi gychwyn gweithio gyda’r cwmni yn yr wythdegau. ‘Roedd hi’n bleser a hwyl sgwrsio gyda hi bob amser, ac ‘roeddwn i’n edmygu ei daliadau cryf a byddai bob amser yn dweud beth oedd ar ei meddwl yn hollol blaen. Gawso’ ni lot o hwyl yn magu ein plant a chael rhyw ‘days-out’ bach joli i lan y môr a ballu – dyddiau difyr.  Fydda ‘na hefyd  groeso mawr i ni bob amser yn Llandwrog. ‘Roedd hi’n berson dawnus dros ben a ‘roeddwn i wrth fy modd yn ei gweld ar y llwyfan – mi wnaeth hi argraff mawr arnai yn y sioeau Merched yn Bennaf ac yn O Syr Mynte Hi.  Braf oedd cael cydweithio gyda hi hefyd flynyddoedd yn  ddiweddarach pan ddaeth yn ôl i Bara Caws i gyfarwyddo Paris.

Mi fydd chwith mawr ar dy ôl Iola – diolch am y fraint o  gael dy adnabod a chael gymaint o hwyl yn dy gwmni – cwsg yn dawel.  Ein cydymdeimlad dwys ag Angharad a Rhian a’u teuluoedd.”

Linda Brown

llun o criw cwmni theatr bara caws

Pob newyddion