Cofio Meic Povey
Cartref > Newyddion > Archif > Cofio Meic Povey
Cyfaill, cymwynaswr, talent, gwrandäwr, arsyllwr…sut mae disgrifio Meic? Bu’n gefnogwr brwd o Bara Caws ers y cychwyn, ac mae ei waddol i’r theatr a’r cyfryngau yng Nghymru yn amhrisiadwy. O’m rhan i cefais gyfle i weithio ag ef fel cyd-actor; cyfle i bortreadu rhai o’i gymeriadau mwyaf cofiadwy; ac yn fwyaf diweddar y pleser o esgor ar berthynas newydd efo fo fel cyfarwyddwr o’i waith. ‘Roedd ei ddisgyblaeth, ei graffter, ei ddiddordeb, ei chwilfrydedd, ei hoffter o’i gymeriadau, ac o drafod a sgwrsio, a rhoi’r byd yn ei le mewn modd dwys a’r modd mwyaf pryfoclyd heb ei ail. ‘Roedd wedi gyrru drama newydd sbon at Bara Caws ddechrau eleni, a ‘roedden ni wrthi’n trio trefnu cyfarfod i drafod y gwaith ymhellach pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. Deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin, ac yn ei ffordd ddihafal ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r gwaith asap – a fel ddeudodd Catrin – “Pwy yda ni i ignorio hynny?”… Felly bydd hi’n bleser cael llwyfannu Dwyn i Gof y flwyddyn nesaf ‘ma. Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio ar y daith hon, ond diolch – unwaith eto – am y fraint.
Betsan Llwyd
Mi oedd ‘na ugain mlynedd yn mynd i basio fel y gwynt rhwng i mi rannu set hwyliog ‘Y Dyn na’th ddwyn y Nadolig’ hefo Mordecai ac eistedd i drafod sioe glybia’ oedd Meic yn awyddus ei hysgrifennu i Bara Caws yn 2004 ym mar y Prince of Wales yng Nghriccieth. Nid y Windsor clustiog ond tywysog arall oedd ganddo mewn golwg fel testun y sioe – Owain Min Dŵr – a thrafferthion dychmygol, cymdeithasol a chorfforol di-chwaeth, arwr ein cenedl oedd ei fyrdwn. Cyn fy nghyfnod i yn Bara Caws mi oedd Meic wedi ysgrifennu sawl sioe bwysig i’r cwmni ond bellach ‘roedd o’n awyddus i fentro i gors y Sioe glybiau. Fel y Mordecai gynt mi oedd Meic yn gwybod yn union be oedd o isio, a be oedd Meic isio yn ei sioe glybiau oedd rhegi – lot o regi. Chwe mis yn ddiweddarach mi oedd Crach Ffinant yn dod yn ei flaen i agor y sioe gyda’r lein :
‘Dw i’n gwbod be’ ‘dach chi’n feddwl..! Sioe glybia’ arall yn llawn o jocs gwael a rhegfeydd aflan, yn son am ddim ond am wastraff naturiol a dirgelwch merchaid! Wel – dim ff** o beryg ylwch!
Yn stod y chwe mis arweiniodd i’r lein ‘fythgofiadwy’ yna mi oeddem wedi cael oriau o gysur a Meic wedi profi i ni mai nid y rhegi oedd yn bwysig iddo o gwbwl. Un modd o fynegiant oedd hwnnw ac un oedd yn orchudd garw tros eiconoclastiaeth clyfar a chenedlgarwch, dros gariad at y dweud a’r cymeriadu. Tu ôl i’r maswedd bras ‘roedd ‘na feddwl ac ystyr a gofal. Fel yn y gwaith felly yn y dyn, tu ôl i’r hyder mawr a’r chwerthiniad heintus ‘roedd ‘na ddwysder a chanol moesol a’r dewrder i’w fynegu. Mae ei gyfraniad i fyd y ddrama yng Nghymru yn ddifesur a’n dyled iddo fel cwmni yn fawr. Dwi’n falch o fod wedi cael ei nabod ac ydw i’n mynd i anghofio cael y fraint o gydweithio gyda Meic ? Wel – dim ff** o beryg ylwch!
Tony Llewelyn
Tua troad y ganrif roedda ni’n dau fwy neu lai ‘dan glo’ am rai wythnosa’ mewn stafell yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, yn trio llunio cyfres deledu. Dyna pryd y dois i i’w adnabod o’n iawn a doedd hynny ddim yn anodd oherwydd roedd ‘na sawl peth yn gyffredin rhyngddom gan ein bod ill dau o’r un math o gefndir gwledig digon llwm a’r ffaith ein bod wedi gadael yr ysgol yn llafna’ pymtheg oed.
Er bod yr amgylchiada’n ddyrys a’r pwysa’n o drwm ar ein sgwydda roedd hi’n bleser, ac yn fraint hefyd, cael cydweithio efo fo. Roedd o bob amsar mewn hwylia da, byth yn oriog, a fuo ‘na run gair croes rhyngddo ni yn ystod y cyfnod. Y boddhad mwya heb os oedd cael gwrando arno fo’n deud sdraeon a’i wylio’n mynd trwy ei betha. Roedd ‘na ryw ffenast fach gron yn nrws y stafell a bob yn hyn a hyn mi fydda fo’n neidio’n sydyn o’i gadair cyn llamu at y drws, gosod ei drwyn ar y gwydr, a gweiddi: “They’re all cunts out there!” ar dop ei lais. ‘Wn i ddim o ble y deuai’r chwiw ond roedd o’n berfformiad arbennig. I mi, fo oedd y William Goldman Cymraeg. Roedd ganddo storfa helaeth o straeon a sgandals wedi eu hel yn ystod gyrfa hir ac amrywiol ym myd ffilm, theatr a theledu ac roedda nhw’n werth eu clywed. Dwi’n cofio ei siarsio ryw dro i’w rhoi nhw i lawr ar gof a chadw, wn i ddim os y gwnaeth o a’i peidio.
Coffa da am ddyn a oedd yn fodlon ‘dod i’r adwy’ ac am gwmnïwr ffraeth a gipwyd gan y Cychwr ar ddiwrnod fy mhenblwydd.
Twm Miall
Y cardyn ‘Dolig cynta’ ar y mat bob blwyddyn, ac arno un enw ac un brif-lythyren…’Povey, X.’ A phob blwyddyn mi oedd ei lawsgrifen yn codi gwên a chynhesrwydd-tu-mewn am atgofion hynod hapus yn ei gwmni. Chwerthwr swnllyd, yn enwedig ar ben ei jôcs ei hun! Dwi’n cofio bod yn barod i fynd ar y llwyfan i neud perfformiad o ‘Wal’ [Aled Jones Williams] yn Neuadd Llanofer flynyddoedd yn ôl, dim ond rhyw ddau neu dri yn y gynulleidfa, a chlywed llais Povey yn cerdded i mewn drw’r neuadd wag, ista i lawr, a gweiddi ar Ber neu Ems yn y cefn – “Dwi’m yn cymyd sêt neb yn fama na’dw?!” cyn i’w chwerthiniad harti adleisio dros y lle a chodi’r wên arferol ar wynebau Maldwyn a finnau, gefn llwyfan.
Pobol oedd petha’ Povey. Oedd, mi oedd o’n Debyg Iawn i Ti a Fi – a dyna pam yr oedd ei gymeriadau fo yn ymddwyn ac yn swnio mor gredadwy ar y dudalen – ond, oherwydd ei ddawn a’i ddisgyblaeth di-flino, mi oedd o’n wahanol iawn i bob un ohona ni. Yn ôl Meic, yr hyn oedd yn brawf ac yn fesur o lwyddiant awdur oedd ei ‘body of work,’ a phrin y gall neb ddod yn agos at nifer, na dylanwad, campweithiau Povey dros y deugain mlynedd dwaetha’. Be’ ddysgish i gynno fo? Bod gwaith caled a thrylwyr yn gallu bod yn lwmp o hwyl. Fel ffigwr cyhoeddus, ac yn sgîl ei waddol fel sgwennwr, ma’ Cymru wedi colli cawr. Mae’r golled i’r teulu, wrth gwrs, yn mynd i fod yn un llawer iawn mwy poenus. Mae ein cydymdeimlad a’n cofion cynhesaf ni i gyd yn estyn atyn nhw rwan. Diolch am gael rhannu dipyn o’r egni a’r tân. Ffrind ac arwr yn un!
O hyn ymlaen, yn ‘y nghalon i fydd ‘Povey. X’, dim ar y mat. Diolch mêt. Merf. X.
Merfyn Pierce Jones
Anodd meddwl na welwn ni byth o Meic eto – mor annheg ei fod wedi gorfod ein gadael mor fuan. ‘Roedd yn ffrind annwyl a charedig a phob amser yn llawn hwyl – dwi’n gweld ei wên ddireidus pan dwi’n meddwl amdano. ‘Roedd yn un o’n dramodwyr gorau ni yng Ngymru ac mor ddisgybledig wrth ei waith. Mae’r ffilm â ysgrifennodd rhai blynyddoedd yn ôl – ‘Nel’ gyda Beryl Williams yn y prif ran – yn aros yn y cof, a’i ddrama ‘Diwedd y Byd’ yn fy nhyb i yn gampwaith. Mi fydd colled a bwlch enfawr ar ei ôl – mae ei gyfraniad i fyd y theatr a theledu wedi bod yn amhrisiadwy. Cwsg yn dawel Meic – mi oedda ti’n spesial. Fy nghydymdeimlad dwysaf a’r teulu i gyd.
Linda Brown