Cwrs Dylunio a Chreu Gwisgoedd Theatr
Cartref > Newyddion > Archif > Cwrs Dylunio a Chreu Gwisgoedd Theatr
Mae Theatr Bara Caws yn hynod gyffrous i gyhoeddi Cwrs Dylunio a Chreu Gwisgoedd Theatr ar y cyd efo Galeri Caernarfon a The Laura Ashley Foundation.
Dyma gyfle unigryw a chyffrous i 5 unigolyn rhwng 16 -30 oed i addysgu sgiliau dylunio a chreu gwisgoedd theatr ar gyfer cynhyrchiad proffesiynol bydd yn cael eu gweld ar daith ledled Cymru.
Bydd y tiwtor gwnïo Debra Drake (The Great British Sewing Bee, BBC One) yn arwain sesiynau gyda goruchwyliaeth gan y dylunydd gwisgoedd Lois Prys ar gyfer creu gwisgoedd i gymeriadau gwallgof sioe gomedi nesaf Theatr Bara Caws, Mwrdwr ar y Maes.
Cost y cwrs yw £70 am 10 sesiwn (cynllun talu ar gael).
Cyntaf i'r felin, bachwch eich lle ar y cwrs rŵan