Diolch Betsan
Cartref > Newyddion > Archif > Diolch Betsan
Heddiw, mae Bara Caws yn cau ei ddrysau am y Nadolig, a hoffwn ddiolch i chi gynulleidfaoedd gwych am eich cefnogaeth yn ystod 2025. Wrth i ni droi ein golygon at 2026, mae cyffro yn ein mysg yma ym Mara Caws. Bydd Ffion Dafis yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig fis Ionawr, ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda hi mewn cyfnod trawsnewidiol yn hanes y cwmni wrth weithio ar ei gweledigaeth a chynlluniau’r cartref newydd.
Chwerw felys yw ffarwelio gyda Betsan Llwyd, ein cyfarwyddwr artistig ers 2012; yn ddiolchgar am yr 13 mlynedd o’i harweiniad artistig, ond yn sicr, byddwn yn colli ei chwmni a’i chyfeillgarwch.
Yn ystod ei chyfnod, cyfarwyddodd 40 o gynyrchiadau, ac os nad oedd hi’n cyfarwyddo roedd yn rhan allweddol o’r gwaith castio, dramatwrgio a chynhyrchu. Sgil arbennig Betsan oedd taro’r cydbwysedd rhwng gweledigaeth feiddgar, gan gadw mewn cof beth yw enaid Bara Caws.
Rhan greiddiol o hyn oedd rhoi llwyfan i waith gwreiddiol, ac roedd Betsan yn frwd dros gomisynu gwaith newydd. Roedd ei hebost yn llawn o syniadau a sgriptiau gan ddramodwyr profiadol a newydd, ac ond yn dewis gwneud addasiad o ddrama os oedd rheswm gwirioneddol dros wneud hynny. Mae Draenen Ddu yn dod i’r cof fel un enghraifft o hyn, fel mynega cyn-aelod o’r Bwrdd, Gerwyn Wiliams:
‘Petawn i’n gorfod dewis un cynhyrchiad yn anad yr un arall sy’n cynrychioli’r gorau am gyfnod Betsan Llwyd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws yna’r perfformiad o Draenen Ddu ym Mai 2022 yn Neuadd Ogwen, Bethesda fyddai hwnnw. Dim ond dau actor, set syml a chyfieithiad Angharad Tomos yn perthnasoli’r ddrama’n berffaith i’r cyd-destun Cymreig. Dyma ichi theatr gymunedol yn cynnal y safonau artistig uchaf - a dadl rymus, petai angen un, dros bwysigrwydd ei pharhad. Diolch o galon, Betsan!’
Roedd Betsan yn gwybod sut i fynd at galonau’r gynulleidfa, ac yn gwybod bod ‘na bŵer mewn geiriau.
Ond, cofiwch mai cychwyn ei pherthynas gyda Bara Caws oedd fel actor. Bu’n actio yn Paradwys Waed (2000) a Lysh (2004). Yna, gwnaeth y naid i gyfarwyddo dwy sioe arall i’r cwmni, sef Tri rhan o Dair (2007) ac Un Nos Ola Leuad (2011). Yn sicr, mae ei phrofiad helaeth fel actor wedi cyfrannu’n fawr at ei dull cyfarwyddo, yn fanwl, yn ofalgar, yn ysbrydoledig.
Dengys hyn yn y llu o wobrau mae’r cwmni a’r actorion wedi eu hennill ar hyd y blynyddoedd dan ei chyfarwyddyd. Ymfalchïwn yn ein llwyddiant yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru ers eu sefydlu yn 2013, a nifer o’r prif wobrau wedi dod i’n rhan:
Perfformiad Benyw Gorau yn yr iaith Gymraeg 2013 – Rebecca Harries (Llanast!)
Perfformiad Benyw Gorau yn yr iaith Gymraeg 2014 – Eiry Thomas (Garw)
Perfformiad Gwryw Gorau yn yr iaith Gymraeg 2014 – Rhys Parry Jones (Garw)
Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – Siôn Eirian (Garw)
Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – (Garw)
Perfformiad Gwryw Gorau yn yr iaith Gymraeg 2015 – Rhodri Evan (Difa)
Cynhyrchiad gorau yn yr Iaith Gymraeg 2015 - (Difa).
Dramodydd Gorau yn yr iaith Gymraeg – Sion Eirian (Yfory)
Perfformiad Benyw Gorau yn yr iaith Gymraeg – Caryl Morgan (Yfory)
Rydym fel cwmni wedi bod yn hynod o ffodus o gael cydweithio gyda rhai o’r dramodwyr a’r actorion gorau a welwyd yn yr iaith Gymraeg. Ni all rhywun ond peidio a meddwl bod cael cydweithio gyda Betsan yn ran allweddol o hynny. Dyma air gan yr actorion Siôn Emyr, Manon Wilkinson a Morfudd Hughes:
‘Dwi’n ddiolchgar iawn i chi Betsan am gael ffydd yndd ai fel perfformiwr! Mae wedi bod yn bleser llwyr, a lot o hwyl, cydweithio efo chi yn yr ystafell ymarfer a theithio Cymru yn rhannu cynyrchiadau Bara Caws efo cynulleidfaoedd sy’n disgwyl safon uchel, diolch i’ch ymroddiad, gweledigaeth a’ch diddordeb chi yn y diwydiant! O ddysgu sut i greu Gin yn yr 18fed ganrif, datrys mwrdwr ar faes yr Eisteddfod a chreu llanast bob dydd am ddeufis – mae gen i atgofion di-ben-draw! Diolch am ateb bob cwestiwn ‘gwirion’ a sori am ddeud ‘sori’ drwy’r amser, nai drio peidio! Pob dymuniad gorau, be bynnag ddaw nesa!'
Siôn.
‘Diolch o galon i ti Betsan am dy arweiniad crefftus a’th garedigrwydd dros y blynyddoedd. Mae dy brofiad helaeth ym maes y ddrama, ynghyd â’th chwilfrydedd am gymeriadau a’th allu i lywio’r broses gyfarwyddo, wedi ysbrydoli ac wedi bod yn amhrisiadwy. Un o’r gwefrau mwyaf cyffrous i mi oedd gweld a deall nad oes ffin na her na wyt ti’n barod i’w harchwilio. Un o wobrau mwyaf y celfyddydau yw’r gallu i greu syniadau newydd, herii, newid meddyliau a bod yn greadigol – ac rwyt ti wedi gwneud hynny’n bosibl dro ar ôl tro. Dw i mor freintiedig o fod wedi cael cydweithio â ti, dysgu wrth weithio ac, yn bennaf oll, mwynhau ffrwyth ein llafur ar hyd y daith. Diolch yn fawr iawn i ti am bob gair o gyngor, pob arweiniad, a’r holl anogaeth. Yn fythol ddiolchgar, gan ddymuno’r gorau un i ti ar gyfer y dyfodol.'
Manon
‘Braint o’r mwyaf oedd imi gael gweithio dan gyfarwyddyd meistrolgar ac ysbrydoledig Betsan, yn ystod ei chyfnod gyda Theatr Bara Caws. Dymunaf pob dymuniad da iddi ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol, gan fawr obeithio y daw cyfle i gyd weithio hefo hi eto yn fuan iawn.'
Morfudd.
'Bu’n benderfynol o fwrw’r maen i’r wal gydag un prosiect yn arbennig, sef Halibalŵ gydag Antur Waunfawr. Ers degawd, bu Betsan a Menna Jones o’r Antur yn trafod cydweithio ar weithdai drama wythnosol, ond nid oedd gofod hygyrch a phwrpasol i alluogi i hyn ddigwydd. Yn ddygn, bwrwyd ymlaen i wireddu’r syniad, a bellach mae tri bloc o weithdai Halibalŵ wedi bod, gyda Betsan ymhob gweithdy fel anogwr, cefnogaeth a ffrind. Saff dweud bod criw Halibalŵ yn mynd i’w cholli!
Yn ystod blynyddoedd heriol Cofid, daeth egin syniad o ddechrau cynllun newydd S’gen ti Syniad? i feithrin llu o ddramodwyr newydd, a chynnig cyfleoedd i ddegau o actorion, coreograffwyr a thechnegwyr.
Dau sydd wedi gwerthfawrogi anogaeth Betsan ers y dechrau’n deg yw Mared Llywelyn, Cadeirydd presennol y Bwrdd a Llyr Evans, sydd wedi datblygu o fod yn actor i sgwennwr a sefydlu Cwmni 303.
‘Dwi’n cofio mynd i weld cynhyrchiad cyntaf Betsan wrth y llyw pan oeddwn ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chael sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y perfformiad o Llanast! Rhyfeddais at ei hamynedd a’i hamser gyda ni fyfyrwyr, a dwi’n cofio gofyn cwestiwn am colour scheme y gwisgoedd! Dyna lwcus fues i wedyn, ar y cyd efo Mari Elen a Llŷr Titus, oedd cael comisiwn gan Bara Caws i sgwennu Costa Byw, dan enw Cwmni Tebot. Cwmni cydweithredol, cymunedol… da chi’n gweld lle ddaeth yr ysbrydoliaeth? Yn fwy diweddar, es at Bara Caws gyda syniad newydd gafodd ei ddatblygu gan Theatr Genedlaethol Cymru, Theatre Gu Léor a Fishamble am ddrama tairieithog newydd, yn y Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a Chymraeg. Wrth gwrs, aeth Betsan amdani, yn gweld bod Taigh/Tŷ/Teach yn cynrychioli ethos Bara Caws i’r dim. Canlyniad hynny oedd iddi dreulio deufis yng Nglasgow, yna ar Ynys Lewis a Swydd Kerry yng Ngorllewin Iwerddon, gan orffen yn y lleoliad mwyaf perffaith – Nant Gwrtheyrn. Diolch Betsan, am fod yr athro theatraidd gorau posib, diolch am bob dim.'
Mared.
‘Diolch di-ddiwedd am dy gefnogaeth a’th ysbrydoliaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf. I ti mae’r diolch bo fi bellach yn sgwennu gymaint, a hynny oherwydd dy anogaeth cadarnhaol o’r eiliad cyntaf. Mi blanaist yr hedyn yn fy meddwl bod fi actually yn gallu gwneud hyn, a ma’r cynigion a ddaeth gan Bara Caws, a chwmniau eraill erbyn hyn, yn dod o’r hwb cyntaf un nes di roi i’m hyder bregus. Diolch o galon am wneud i fi freuddwydio, ac am wireddu breuddwydion. Cofion lu a chariad, a gobeithio cawn gyfle i gydweithio eto rhywdro, ond mewn rhywle cynhesach!'
Llyr
Gan bawb yma o deulu Bara Caws, diolch am yr arweiniad a’r weledigaeth. Bu’n fraint cyd droedio’r llwyfanau. Edrychwn ymlaen i weld be ddaw yn dy olygfa nesaf.
Einioes pob sioe lwyfannwyd.
Yn ddygyn Dros ddegawd y'u crewyd,
A'u rhuddin a wefreiddiwyd
A swyn a lliw Betsan Llwyd.
Dyfan Roberts







