Er Cof am Gareth Miles
Cartref > Newyddion > Archif > Er Cof am Gareth Miles
Heb Gareth dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi ysgrifennu fawr o ddim ar gyfer y theatr. Fo ac Ed Thomas roddodd y wobr i mi am ddrama hir yn Eisteddfod Genedlaethol, Castell Nedd, 1994. Y ddrama oedd Dyn Llnau Bogs. Meddyliais cyn ei hanfon ei bod hi’n rhy fyr. Felly ychwanegais rhyw gowdal o eiriau ciami ar ei diwedd. Sylw Gareth am hynny oedd, y bu bron iddo atal y wobr. Oherwydd rhaid i awdur sefyll wrth ei greadigaeth heb geisio glastwreiddio wedyn. Sylw arhosodd hefo mi.
Falla i Gareth ambell dro ddifaru fy rhoi ar y daith theatrig. Un sylw ganddo oedd: Cofia di mai pryddestwr wyt ti.
Yr oedd fy meddwl o Gareth yn fawr iawn. Dyn y Chwith oedd yn troi ei Farcsiaeth yn brofiadau theatrig. Ar un wedd, er na fyddaf yn licio’r math yma o ddweud, ond fe’i dywedaf, y Brecht Cymraeg. Cofiaf y profiad o weld Hunllef yng Nghymru Fydd, a meddwl yn syth am Brecht.
Ond y profiad dramatig ysgytwol a roddodd i mi oedd Banc y Byd. Drama gomisiwn gan Cymorth Cristnogol a wireddwyd drwy wagio Cadeirlan Bangor o ddodrefn a pharaffanelia eraill ac yn y gwagle hwnnw ein tywys, ac yr oedd y gynulleidfa’n gorfod cerdded o un man i’r llall, nid oedd seddi, i ddamio cyfalafiaeth fel y pechod gwleidyddol mwyaf erioed. Gadewais yn chwilio am y chwyldro.
Yn anffodus, gyda rhai eithriadau, prin yw’r math yna o theatr bellach. Mae rhyw fyfiaeth andwyol wedi ein cipio. Difyrru yw’r nod. ‘Bara a Syrcas’ y Rhufeiniaid a’r Toriaid fel ei gilydd. Theatr er mwyn gwylltio oedd nod Gareth. Ac o’r gwylltio gweithredu.
Ni fu efallai iddo gael y sylw yr oedd yn ei haeddu.
Yr oedd, ac y mae, yn ffigwr pwysig a wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i’r theatr Gymraeg ac i lenyddiaeth Gymraeg.
Aled Jones Williams
Actor ifanc o’n i pan gyfarfyddais i Gareth am y tro cynta’. Wedi cael fy nghastio yn Ffatri Serch, gan y diweddar, annwyl Gruffydd Jones, yng nghynhyrchiad Cwmni Hwyl a Fflag ar gyfer ‘steddfod Genedlaethol Llambed, nôl yn 1984. Dwi’n cofio cynulleidfaoedd yn chwerthin lond eu boliau wrth i ni berfformio yn Neuadd Aberaeron gydol yr wythnos, ac yn ystod y daith wedyn. Comedi ie, ond comedi am beryglon cyfalafiaeth a’r isfyd sy’n bodoli dan wyneb cymdeithas ‘wâr’ oedd hi. Doedd glweidyddiaeth byth yn bell… Ac yna yn ei addasiad o Duges Amalffi – unwaith eto’n mynd ati, nid i gyfieithu’n unig, ond i gynnig golwg gwleidyddol gyfoes ar un o glasuron y traddodiad theatrig. Ac yn ei gyfres i HTV, Cyfyng Gyngor – y teitl yn awgrymu mai ein cynghorion lleol oedd o dan y lach (mewn tref ffuglennol wrth gwrs) wrth iddynt droi’r dŵr i’w melinau eu hunain.
Mi ddysgodd gymaint i mi am wleidyddiaeth ym myd y ddrama – ac yn enwedig am waith Brecht – gan fenthyg tapiau o Lotte Lenya’n canu i mi. “Ond dydw i ddim yn canu, Gareth”, meddwn i, “A dydi hi ddim chwaith”, medda fo, “Ond gwranda mor bwerus mae hi’n gallu trosglwyddo’r gwaith”.
Wedi i mi ymuno â Bara Caws fe gysylltodd ar ei union yn gofyn os o’n i’n gyfarwydd â gwaith Yasmina Reza, Le Dieu du Carnage. Awgrymodd mod i’n gwylio’r ffilm a’n darllen y gwaith yn Saesneg, gan ddweud ei fod yn awyddus iawn i’w chyfeithu/addasu i’r Gymraeg. Doedd dim rhaid gofyn ddwywaith, a chyflwynwyd Llanast! yn fuan wedyn. Cyfyng yw’n ngallu i yn Ffrangeg, ond roedd gen i ddigon i holi a chwestiynnu ambell benderfyniad wrth i ni drefulio oriau yn ei swyddfa ym Mhontypridd yn holi a stilio a chwestiynu, a fyntau’n estyn un o’r myrdd geiriaduron oedd yn rhan o’i gasgliad enfawr o lyfrau oedd yn britho’r ‘stafell, cyn picio am goffi i’r caffi cyfagos.
Mae’n amlwg i bawb nad i faes llenyddiaeth yn unig bu iddo gyfrannu, ac mae ei ddylanwad wedi bod yn allweddol ledled Cymru, a’i enw ynghlwm â chymaint o fudiadau gwleidyddol, ac anghyfiawnder cymdeithasol yn greiddiol i bopeth a wnâi.
Diolch iddo am ei gefnogaeth barhaol i mi’n bersonol, i Gwmni Bara Caws ac i fyd y theatr yng Nghymru yn gyffredinol. Mae bwlch mawr ar ei ôl.
Cofion lu at Gina a’r teulu cyfan.
Betsan Llwyd
(hawlfraint llun Cymdeithas yr Iaith)