Er cof am Sion Eirian

Cartref > Newyddion > Archif > Er cof am Sion Eirian

Siôn Eirian

(1954 – 2020)

I drymgwsg y didramgwydd – y cwympaist,
Ein campwr ddramodydd.
Hedd y daith ar ddiwedd dydd
Didrannoeth a didrennydd.

Emlyn Williams


Y tro cyntaf welais i Siôn oedd ar lwyfan Ysgol Maes Garmon – minnau yn fy mlwyddyn 1af a fo’n y 6ed – pan oedd o’n perfformio mewn pantomeim ‘roedd o wedi ei ‘sgwennu, a hyd yn oed bryd hynny ‘roedd o’n licio gwthio ffiniau… Ac mi barhaodd i wneud hynny gydol ei yrfa, ond byth herio er mwyn herio’n unig — ‘roedd o’n teimlo’n angerddol ynglŷn ag agor llygaid cynulleidfaoedd i bob math o themâu a phosibiliadau, ac er ei fod wedi bod yn llenor toreithiog ym mhob maes, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ‘dwi’n bendant mai ‘sgwennu ar gyfer y llwyfan oedd o’n fwynhau fwyaf, oherwydd dyma lle oedd o’n teimlo bod ganddo’r rhyddid i ddefnyddio’i lais ei hun.

Pan ymunais i â Bara Caws fel Cyfarwyddwr Artistig mi gysylltodd yn gofyn am gael cyd-weithio ac mae hi wedi bod yn siwrne gyfoethog, ddiddorol a hapus dros ben.

Bu i ni lwyfannu Garw yn 2014 ac Yfory yn 2016 a bu’r ddwy’n llwyddiannau ysgubol gan ddenu cynulleidfaoedd yn eu cannoedd ac ennill gwobrau lu – gan gynnwys yr Awdur Gorau yn Gymraeg i Siôn ddwy waith. Ein bwriad oedd llwyfannu’r drydedd yn ei drioleg gwleidyddol, Fienna, fis Medi eleni ond oherwydd y pandemig ‘roedd rhaid gohirio. Pan gysylltais â Siôn i egluro ‘roedd yn deall i’r dim ond yn daer i ni barhau â’n cynlluniau o lwyfannu’r ddrama olaf i ni ei gomisiynu ganddo, Byd Dan Eira, yn ystod 2021 gan ei bod yn nodi 40 mlynedd ers sefydlu Gwersyll Heddwch Comin Greenham gan griw o ferched o Dde Cymru. Mi drïwn ein gorau i wireddu ei ddymuniad.

Bob tro byddem ni’n cyfarfod ‘roedd y sgyrsiau’n dilyn pob math o lwybrau – ‘roedd o’n athrylith, yn angerddol, yn annwyl, yn weithiwr diflino, yn gefnogol, yn werthfawrogol o bopeth a’n llawn hiwmor direidus – fyddai’n cadw’r negeseuon (cyfrinachol!) aeth nôl ac ymlaen rhyngom am byth.

Betsan


Credai Siôn yn angerddol bod yn rhaid i bob cenedl ymdrechu i greu awyrgylch ble byddai artistiaid yn gyffredinol, ac awduron yn benodol, yn gallu datblygu a ffynnu… Ymroddodd o’i egni a’i amser i geisio sefydlu a datblygu cymuned o ysgrifenwyr proffesiynol yng Nghymru, yn ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe wnaeth hynny yn ddiflino. Roedd ei ddeallusrwydd, ei gymeriad hawddgar, ei ffraethineb, ei uniondeb gwleidyddol a phroffesiynol, yn ogystal â’i gefnogaeth garedig a hael o ysgrifenwyr eraill, yn ddigymar. Mae gan lawer o ysgrifenwyr yng Nghymru heddiw le i ddiolch yn fawr iawn i Siôn am eu teithiau hwythau drwy gelfyddyd ysgrifennu.

Ond er ei holl lwyddiannau, mi roedd Siôn yn ddyn diymhongar, wastad yn barod i ddysgu, i wella, i’w “gael e’n iawn”. Byddai’n ymchwilio yn ddyfal, ac yn ail-sgwennu ac yn adolygu ei waith yn ddiflino. Roedd ei lais yn unigryw, ei ddawn yn unigryw, a’i ddynoliaeth yn ddiamheuol. Yn syml, does yna neb fel Siôn wedi bod erioed, a bydd neb yn camu i’w esgidiau. Mae’n golled enfawr arall i’r gymuned greadigol yng Nghymru, ac mi fydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl.

Manon Eames


Er mai ond llond dwrn o weithiau nes i gwrdd â Siôn mi o’n nhw’n achlysuron sy’n aros yn y cof. Y rheswm penna am hyn oedd fod Siôn byth yn rhuthro o gwmni rhywun, hyd yn oed os oedd ’na bobol llawer pwysicach a diddorol yn ceisio dal ei lygad.  Bonheddwr yn sicr, ond hefyd rhywun a oedd wir yn gwrando ar bobol, eu storïau, eu barn, eu dyheuadau a’u hanes. Dwi’n cofio’r cyfarfod cyntaf yn glir, alla’i weld e’ nawr, yn eistedd wrth y bar gyda merch ifanc hardd, Erica, yng nghlwb rygbi St Peter, Newport Rd rhywbryd yn yr ‘80au cynnar. Wrth i mi agosau at y bar y peth nesa roedd Siôn yn brasgamu ata i gyda gwên anferth a’i law wedi’i hestyn yn barod i gyfarch. O fewn charter awr o’n i’n teimlo fel hên ffrind mynwesol iddo…i Siôn Eirian!…o’n i mor browd.

Fel o’n i’r tro ola i mi dreulio rhai oriau yn ei gwmni. Noson Gwobrau Theatr Cymru yn 2015 lle naethon ni, Theatr Bara Caws, gyda’r sioe Garw gan Siôn, ennill pedair gwobr. Anhygoel o noson.

‘Roedd chwarae Llew yn Garw yn brofiad cathartig a dweud y lleia. Dwi’n cofio’r cyfnod mae’r ddrama wedi’i seilio ynddo’n glir, y dynfa a’r newidiadau oedd yn digwydd i gymunedau bach yng Nghymru yn ystod, ac yn dilyn, streic y glowyr yn yr ‘80au, ac yn amlwg, ‘roedd Siôn hefyd.  ‘Roedd taith y cymeriadau, y teulu bach ‘ma oedd yn cynrychioli ffawd miloedd o deluoedd yn y cyfnod dirdynnol hwnnw, yn un truenus ac ar brydiau yn boenus, ond yn stori hynod o bwysig i’w rhannu, wrth i ni wylio eu dyheadau a’u bywydau’n gorfod newid yn llwyr. Wrth gwrs, fel pob awdur gwerth ei halen, ‘roedd Siôn wedi plannu hiwmor a chwithigrwydd ynghanol yr anobaith.

I mi fel actor, ‘roedd yr arfau a roddodd Siôn i’r cymeriad yn amrhisiadwy. Y cyn-lowr sy’n heneiddio a’n ceisio dygymod â’i ddiweithdra, ei gwm a’i deulu yn cael eu rhwygo’n ddarnau…a’r cyn-baffiwr yn gorfod dod i delerau â’r ffaith nad oes unrhywun na unrhywbeth i’w ddyrnau frwydro er mwyn ennill unrhywfath o hunanbarch bellach. Pegynnau dirdynnol llawn emosiwn wedi’u hysgrifennu mor grefftus. Heb y math yma o ysgrifennu dwi’n ffindio hi’n wir anodd i wneud cyfiawnder o bortreadu a rhannu teimladau a neges cymeriad gyda’m cynulleidfa. I mi mae’r geiriau’n hanfodol. Diolch amdanyn nhw Siôn.

Rhys Parry-Jones


Wnai byth anghofio Siôn a mi yn mynd i lawr i Lundain yn dilyn arholiadau lefel O. Siôn oedd yn arwain ac wedi trefnu’r itinirary llawn o ffilmiau a dramau. Dwi’n cofio gweld Woodstock, The Pride of Miss Jean Brody, Women in Love ynghyd â llu o sioeau eraill. Siôn a drefnodd pob dim ond wedi gweld 3 ffilm/sioe mewn diwrnod roedd mynd i weld Abelard A Heloise yn un sioe yn ormod imi, er bod gweld Dianna Rigg yn noeth ar y llwyfan yn temptio… aeth Siôn ar ei ben ei hun.

Selwyn Jones (Palas Print)


Pan dda’th yr alwad i fod yn rhan o gast arbennig Yfory – drama wleidyddol amserol Siôn dan ofal a chyfarwyddyd meddylgar Betsan – dodd dim amheueth mai ie fyddai’r ateb. Cefndir y ddrama yw’r cyfnod helbulus pan trodd consensws y byd gwleidyddol ar ‘i phen gyda Brexit ac ethol Trump yn America. Fel fydde’r  Cynulliad yn ymateb i effeithie’r daeargryn ysgytwol ‘ma? Gyda’i ddeallusrwydd

a’i wybodeth ‘encyclopedic’ o hanes cymhleth gwleidyddiaeth Cymru, rodd y cynhyrchiad mewn dwylo saff.

Fel actorion – cawsom y cyfle amhrisiadwy o gyd-ddarllen y ddrama

yng nghartre’ Siôn a dechre dod i ddeall beth odd taith y cymeriade’. Mawr odd yn edmygedd fel y fydde fe’n gweu a phlethu ieithwedd byd y Senedd i fod yn rhan o batrwm rhwydd y deialog.

Ar un lefel, portread o wleidyddiaeth egwyddorol delfrydol ydy Yfory a’r gwrthdaro a ddaw gyda realiti ‘trade off’ pragmataidd synicaidd y gwleidydd sydd yn arbed ei yrfa ac yn cadw ar ben yr ysgol ar draul popeth. Ar ôl blynyddoedd o bolisie tebyg yn Ngherdydd a Llunden – mae Siôn yn ein harwain i’r casgliad anorfod taw pris hyn i gyd fydde Brexit, Trump, Erdogan a Victor Orban yn Hungary. Gwefreiddiol oedd dod â’r ddrama i lwyfanne’ ar draws Cymru, a chynnal trafodeth gyda rhai o’r gynulleidfa ar ôl y perfformiad, a gwrando ar Siôn yn ymateb i gwestiyne yn ymwneud â’r ddrama a dyfodol Cymru tu fas i Ewrop a thu hwnt.

Pwy a ŵyr? – ymhen amser mi fydde fe wedi ‘sgrifennu drama sy’n

delio gyda effeth Covid19 ar Gymru a’r cwestiyne dyrys am hil ac hanes amheus Prydeinig sydd wedi dod i’r wyneb ‘to. Braint oedd cyd-weithio gyda’r athrylith tawel, hynod deallus hwn, a chydymdeimlaf gydag Erica ei wraig a Guto’i frawd ar eu colled.

Dewi Rhys Williams.


Mae colli Siôn yn dristwch mawr i ni gyd. Roedd yn ffrind annwyl personol ac yn wir ffrind i’r theatr yng Nghymru.

Wyn a Gwen.

Pob newyddion