Rhaglen Aerthafedig 2019/2020
Cartref > Newyddion > Archif > Rhaglen Aerthafedig 2019/2020
COSTA BYW
gan Mari Elen Jones, Mared Llywelyn Williams, Llyr Titus.
Bara Caws, mewn cydweithrediad â Cwmni Tebot, yn cyflwyno Costa Byw – rifíw hwyliog sy’n dychmygu sut le fydd Gwynedd mewn blynyddoedd i ddod. Cewch ambell gip ar broblemau cyfoes – mewnfudo, diffyg swyddi, cost tai, gwleidyddion, newid hinsawdd, crîm egs yn mynd yn llai bob gafael, hyn oll a mwy.
Ymunwch â ni i weld be’n union ydi a be fydd costa byw ’di mynd!
Cast: Iwan Charles, Llyr Edwards
Director: Betsan Llwyd
LLEU LLAW GYFFES
gan Aled Jones Williams.
20 mlynedd yn union wedi Sundance, ei ddrama gyntaf i Bara Caws, ’rydym wrth ein bodd bod un o brif lenorion Cymru – sydd hefyd yn un o’n cefnogwyr mwyaf selog – wedi cyflwyno drama newydd i ni. Byddwn yn gweithio ar Lleu Llaw Gyffes ym Hydref/Tachwedd 2019. Heb os, bydd y gwaith eiconoclastig hwn am golli ffydd, chwalu mythau ac am y tynerwch dynol all oroesi yn ddeifiol a chignoeth, ac yn nhraddodiad Aled, yn ddifyr, cyffrous a heriol – garantîd!
Cast: TBA
Director: Betsan Llwyd