'Sgen ti Syniad

Cartref > Newyddion > Archif > 'Sgen ti Syniad

Yn sgil llwyddiant y cynllun diwethaf, dyma alwad am syniadau newydd eto, a'r amod y tro hwn yw ein bod yn awyddus i ddatblygu sioeau comedi. Ceisia 'sgwennu i ddim mwy na 3 actor - ond cei ddyblu cymaint ag y lici di!

Os hoffet syniad o'r amrywiaeth sioeau mae'r cwmni wedi eu cyflwyno yn y gorffennol cymer olwg ar ein gwefan - www.theatrbaracaws.com - mae llu o luniau yn yr archif.

Felly, gyrra amlinelliad go gynhwysfawr atom ar un ochr o bapur A4, ac os bydd y syniad yn apelio bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fod yn than o'n cynllun 'Drafft 1' sy'n ariannu'r prosiect cam wrth gam.

Dyddiad Cau Cyflwyno Syniad: 16-01-23

Ac mae croeso i ti gysylltu o flaen llaw os hoffet sgwrs neu ragor o fanylion: mari@theatrbaracaws.co.uk

Pob newyddion