Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
Cartref > Newyddion > Archif > Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
Teitl y Swydd: Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
Graddfa Cyflog: £26,000.00 – £35,060.00 (yn ddibynnol ar brofiad)
Lleoliad: Caernarfon neu leoliadau eraill yn unol â gofynion busnes, (gweithio o adre yn ôl yr angen).
Oriau Gwaith: 38 awr yr wythnos
Mae Cwmni Theatr Bara Caws wedi bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg o bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers dros 40 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Rheoli fel Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid. Dyma gyfle gwych (a phrin!) i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma. Edrychwn ymlaen at ail-gychwyn teithio, at gwrdd â’n cynulleidfaoedd niferus wyneb yn wyneb unwaith eto, ac at symud i gartref newydd sbon!
Tyrd efo ni ar y daith.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a chyllid i’r Cwmni. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, sydd â diddordeb mewn theatr gymunedol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Am swydd-ddisgrifiad fanwl a rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mari Emlyn:
mari@theatrbaracaws.co.uk neu cysylltwch ar 07880 031 302
I wneud cais anfonwch eich CV a llythyr yn nodi sut yr ydych yn gymwys i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd at mari@theatrbaracaws.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 22 Ebrill 2022.