Te Parti

Cartref > Newyddion > Archif > Te Parti

Y digwyddiad sy’n coroni’r dathlu yw’r Te Parti Pen-blwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i griw bychan, brwd o ymarferwyr ddod at ei gilydd a rhoi ’sgytwad iawn i fyd y theatr yng Nghymru. Ac mae Gwasg Carreg Gwalch am lansio llyfr mawr llawn atgofion lliwgar i nodi’r achlysur. Felly dewch i ymuno yn yr hwyl yng nghwmni cyfeillion hen a newydd.

Pryd? Dydd Gwener, 11 Awst, 2pm

Ble? Theatr Fach y Maes

ac yna ’mlaen â’r dathlu yng Nghaffi’r Theatrau – bydd digon o fara, caws… a gwin i bawb!

Noddwyd gan: Aled Roberts, Almahurst Business Solutions; W.T. Roberts, Biwmares; Becws Selwyn Morris, Cwm y Glo; Carlton, Caernarfon; Maenafon Bakery, Llanfairpwll.

Pob newyddion