Ymchwil a Datblygu
Cartref > Newyddion > Archif > Ymchwil a Datblygu
Ymchwil a Datblygu – Wrth Fy Nagrau I
Bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cynnal prosiect Ymchwil & Datblygu am bythefnos ar lyfr Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau I, rhwng y 4ydd a’r 16eg o Ragfyr eleni.
Byddwn yn cydweithio â Chwmni Dawns i Bawb i edrych ar pryd mae’r corfforol yn goresgyn y geiriol er mwyn archwilio dulliau newydd o adrodd stori.
‘Rydym yn chwilio am 3 actores all chwarae 20au, 40au a 60/70au o ran oed, ac sydd â diddordeb yn y gair llafar ac mewn gwaith corfforol/symud.
Mae’n rhaid i chi fedru ar Gymraeg rhugl.
Os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect, gyrrwch eich CV at mari@theatrbaracaws.com erbyn 9fed o Hydref. Bwriedir cynnal diwrnod o glyweliadau yng Nghaernarfon ar 23eg o Hydref.
Diolch arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru am noddi’r prosiect.