Er cof am yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Cartref > Newyddion > Er cof am yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Er cof am yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Trist iawn oedd clywed am golli un o fawrion ein cenedl yr wythnos ddiweddaf, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Gŵr o ddylanwad aruthrol ac a gyfrannodd yn ddi-flino i Gymru ar hyd y degawdau. ‘Roedd ganddo ddiddordeb brwd yn y theatr a bu’n aelod cynnar o Fwrdd Theatr Bara Caws, ac yn ôl cofnodion un o’r cyfarfodydd cofnodwyd ei fod yn pryderu am y baich gwaith oedd rhaid i’r staff ei ysgwyddo a bu’n gyfrifol am sicrhau codiad cyflog iddyn nhw - ac oedda nhw gyd yn ddiolchgar iawn!

Betsan Llwyd

O ran profiad personol bu’n darlithio i mi am flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y Theatr Saesneg gyfoes gan agor ein llygaid i themâu a thrafodaethau athronyddol, cymdeithasol oedd, ar adegau, yn ddieithr ac yn heriol i ni. Bu hefyd ddigon clên i ganiatau i griw ohonom fynd â’n sachau cysgu ar ein cefnau i gysgu ar loriau ei fflat yn Llundain am dridiau er mwyn gweld cymaint o ddramâu â phosib heb orfod talu am lety - ac oedda ninna’n ddiolchgar ‘fyd!

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â Mair, yr hogia a’r teulu oll.

Alun Ffred Jones

Yn rhannu ei atgoffion meddai ein aelod bwrdd Alun Ffred Jones:-

Dafydd-Elis Thomas a’r ddrama.

Cafodd y diweddar ‘Dafydd El’ lawer o glod fel gwleidydd gyfranodd lawer i fywyd a sefydliadau gwleidyddol Cymru tra’n barod iawn i gicio dros y tresi o dro i dro. Ond llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig oedd ei gariad cyntaf ac yn y chwedegau a’r saithdegau fo oedd yr enfent terrible oedd yn dweud pethau mawr mewn eisteddfod a chynhadledd. Roedd o’n teimlo’n gryf bod raid i’n hawduron ysgrifennu am y Gymru bresennol ac nid hiraethu a gogor droi mewn gorffennol gwledig ac roedd yn gas ganddo gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yn rhygnu ymlaen mewn hen rigolau. Ac mae’n siwr ei fod yn iawn.

Roedd ganddo wir ddiddordeb yn y ddrama ac wrth gofio’n ôl daeth un digwyddiad i’r meddwl. Mewn gŵyl ddrama gynhaliwyd yn Nghricieth rywdro yn y chwedegau perfformiodd mewn drama a gyfansoddodd ei hun. Ffars oedd hi am ddyn oedd wedi creu bwyd ci llwyddiannus ond yn anffodus penderfynodd mai’r unig ffordd i gael digon o gig oedd lladd pobol! Mi fu llawer o chwerthin ond efallai nad awdur dramau oedd o ond perfformiwr ar lwyfan amser. A doedd o byth yn ddiflas..

Bydd Cymru yn llwytiach lle heb ei ddatganiadau heriol.

Pob newyddion