Halibalŵ - sesiwn blasu
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Halibalŵ - sesiwn blasu
🎭 Halibalŵ - lle mae creadigrwydd yn dod yn lais!
Ymunwch â chynllun drama cynhwysol sy’n grymuso pobl ag anableddau dysgu drwy greadigrwydd, gan feithrin hyder, lles a sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.
📅 Mae’r prosiect yn rhedeg o fis Medi 2026 hyd Ebrill 2027 gyda sesiynau wythnosol dan arweiniad ymarferwyr creadigol proffesiynol.
✨ Sesiwn flasu: Dydd Llun 15 Mehefin
📍 Canolfan Porthmadog
⏰ 18:00 - 20:00 I gofrestru a sicrhau eich lle, cysylltwch â Mari Emlyn, cyn diwedd y dydd Dydd Gwener 12 Mehefin 📧 mari@theatrbaracaws.co.uk
Diolch i gronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles rhaglen y loteri Cyngor Celfyddydau Cymru am y gefnogaeth ariannol.