Dawel Nos Gan 303

Cartref > Sioeau > Archif > Dawel Nos Gan 303

Miliwnydd, naci biliwnydd a chybudd o fri yw Eban Gandryll – perchennog T.W.A.T (Tegannau Wil a Tina). Mae’n gas ganddo’r ‘Dolig ac unrhyw beth sydd yn ymwneud â’r ‘Dolig. Ond nid felly’r oedd hi – flynyddoedd maith yn ôl, â’r busnes yn ffynnu…… as in really funny, roedd o’n ddyn cydwybodol, croesawgar, a charedig. Beth am ymuno â ni ar y dawel nos hon, i weld a lwyddith Dilwyn Trwmp, perchennog Toys-we’R, i daro bargen a phrynu T.W.A.T? A fydd Bob Scratchit yn llwyddo i ddenu digon o bres i gael y lawdriniaeth angenrheidiol i Twm Fychan? Fydd Lleucu Sbync yn llwyddo i dynnu Cracer ‘Dolig ‘rhen Eban? Neu yn bwysicach oll, fydd ‘Death’ yn llwyddo i gnocio ychydig bach o synnwyr i ben yr hen sinach? 

Ymunwch â ni, staff a chwsmeriaid T.W.A.T am noson o ddiddanwch a chwerthin fydd yn siŵr o’ch cael yn hwyl ac ysbryd yr ŵyl. 

NADOLIG LLAWEN

Yr Actorion : Iwan Charles, Mari Emlyn, Llyr Evans, Carys Gwilym ac Emyr ‘Himyrs’ Roberts 

Cyfarwyddwr : Iwan Charles 

Cyfnod Teithio : 8, 9,10,11,15,16,17 a 18 RHAGFYR (Mercher – Sadwrn) 

Canllaw Oed – 18 + 

Drysau yn agor am 7.30 yh i chi gael llymaid bach, a’r sioe i gychwyn am 7.45 (neu pryd bynnag bydd y cast yn barod!)

Y Daith

This is a Welsh Language Production.

Mercher 08/12/2021 - Neuadd Ogwen, Bethesda - Swyddfa Docynnau: www.neuaddogwen.com
Iau 09/12/2021 - Gwesty'r Eryrod, Llanrwst - Llanast Llanrwst: 01492642357 / Siop Bys a Bawd / Siop Sioned
Friday 10/12/2021 - Clwb Rygbi Blaenau Ffestiniog - Clwb Rygbi: 01766 830055 / 07734 919781
Sadwrn 11/12/2021 - Clwb Rygbi Pwllheli - Tocynnau ar werth yn Llên Llŷn
Mercher 15/12/2021 - Clwb Rygbi, Dinbych - Menter Iaith Dinbych: 01745 812822
Iau 16/12/2021 - Wellmans, Llangefni - Menter Iaith Mon: 01248 725700
Gwener 17/12/2021 - Galeri, Caernarfon - Swyddfa Docynnau: www.galericaernarfon.com / 01286 685222
Sadwrn 18/12/2021 - Galeri, Caernarfon - Swyddfa Docynnau: www.galericaernarfon.com / 01286 685222

Pob sioe