Dinas
Cartref > Sioeau > Archif > Dinas
Mae Bara Caws wrth ein boddau’n cael cyfle i ail-godi’r llen ar gomedi glasurol a gyd-sgwennwyd gan ddau o fawrion ein llên – yr arobryn Emyr Humphreys a’r unigryw WS (Wil Sam) Jones.
"Mae tynged Dinas yn y fantol. Dibynna’r perchennog, John Barig, yn llwyr ar ffyddlondeb Ossie ei was, ond mae’r cartref yn prysur ddadfeilio, a daw’n amlwg fod gan bawb sy’n troi o’u cwmpas ddiddordeb dwfn yn nhynged yr hen le – at eu dibenion eu hunain wrth gwrs… "
Yn ôl yr awduron: “Ein nod fel arfer yw difyrru: ond os ceir ambell ergyd yma ac acw gorau oll.” – ac er i’r ddrama cael ei ‘sgwennu ym 1970 mae’r ‘ergydion’ mor berthnasol ag erioed.
Dyma gyfle euraidd i weld rhai o dalentau comedi gorau Cymru ar lwyfan gyda’i gilydd – a hynny am wythnos yn unig yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd – felly archebwch eich tocynnau yn syth bin!
Cast: Iwan Charles, Richard Elfyn, Carys Gwilym, Dyfan Roberts, Mari Wyn, Rhodri Trefor, Llion Williams
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Yn ystod EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLŶN AC EIFIONYDD yn NEUADD DWYFOR, PWLLHELI AWST 7FED – 11EG, 7:30