Draenen Ddu 2023
Cartref > Sioeau > Archif > Draenen Ddu 2023
Cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles.
Yn sgil llwyddiant ysgubol y cynyrchiad gan Bara Caws yn 2022 rydym yn ail deithio Draenen Ddu er mwyn ateb galw’r niferoedd na chafodd gyfle i’w weld.
Ar yr wyneb mae’n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw’r gwraidd.
Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.
Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad.
Hen, hen thema sydd yma, a’n cael ei chyflwyno i genhedlaeth newydd a hynny mewn modd annwyl, doniol a dirdynol. Mae’r pwnc yn effeithio pob un ohonom, hen ac ifanc, trefol neu wledig. Beth ddaw o’n cymunedau ni, a chyfrifoldeb pwy yw eu parhad? Oes modd gwarchod ein treftadaeth ac ar yr un pryd sicrhau dyfodol i’n pobl ifanc yn eu cynefin?
Mae’r ddrama yma’n siwr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.
Cast: Rhian Blythe a Siôn Pritchard.
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Iwan Charles
Canllaw Oed 14 + (defnydd o iaith gref).
This is a Welsh language production, English precis will be available.
03/10/23 - Galeri, Caernarfon
04/10/23 - Galeri, Caernarfon
05/10/23 - Neuadd Glannau Ffraw, Aberffraw
06/10/23 - Ysgol y Moelwyn, Blaenau
07/10/23 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
10/10/23 - Neuadd y Dref, Llanfairfechan
11/10/23 - Neuadd Goffa, Criccieth
12/10/23 - Y Stiwt, Rhosllanerchrugog
13/10/23 - Neuadd Gymuned Bro Aled
14/10/23 - Theatr John Ambrose, Rhuthun
17/10/23 - Neuadd Oliver Jones, Dolywern
18/10/23 - Theatr Derek Williams, Y Bala
19/10/23 - Neuadd Egryn, Llanegryn
20/10/23 - Canolfan y Banw, Llangadfan
21/10/23 - Theatr Felinfach
25/10/23 - Theatr y Gromlech, Crymych
26/10/23 - Canolfan Gydol Oes, Gartholwg
27/10/23 - Canolfan Gydol Oes, Gartholwg