Ffenast Siop (2023)
Cartref > Sioeau > Archif > Ffenast Siop (2023)
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Bydd cyfle euraidd i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno gwneud hynny, leisio eich profiadau peri-menoposal, menoposal ac o fod yn ferch mewn sgwrs hwyliog gyda Iola Ynyr a Carys Gwilym wedi ambell berfformiad. Bydd hon yn sgwrs gynhwysol anffurfiol lle cewchgyfle i ymlacio a theimlo’n rhydd i ddweud eich dweud mewn gofod diogel.
Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa. Beth allai fod yn well?
Canllaw oed 14+.
๐๐๐ฌ๐ญ – Carys Gwilym
๐๐ฒ๐๐๐ซ๐ฐ๐ฒ๐๐๐จ – Iola Ynyr
๐๐๐ซ๐๐๐จ๐ซ – Osian Gwynedd
๐๐๐๐ก๐ง๐๐ ๐ฒ๐๐ – Llywelyn Roberts
๐๐ฒ๐ง๐ฅ๐ฅ๐ฎ๐ง๐ฒ๐๐ – Lois Prys
Cynhyrchiad Theatr Bara Caws mewn cyd-weithrediad â Galeri, Caernarfon.
Y Daith
08/09/23 - Stiwdio Galeri, Caernarfon
09/09/23 - Stiwdio Galeri, Caernarfon
11/09/23 - Theatr Derek Williams, Bala
12/09/23 - Nant Gwrtheyrn
13/09/23 - Clwb Rygbi, Dinbych
14/09/23 - Comrades Club, Conwy
16/09/23 - Canolfan, Cerrigydrudion
19/09/23 - Stiwdio Pontio, Bangor
20/09/23 - Gwesty'r Eryrod, Llanrwst
21/09/23 - Theatr Fach, Llangefni
22/09/23 - Neuadd Goffa, Llanllyfni
23/09/23 - Arad Goch, Aberystwyth