Lleu Llaw Gyffes
Cartref > Sioeau > Archif > Lleu Llaw Gyffes
LLEU LLAW GYFFES gan Aled Jones Williams.
Drama eiconoclastig am golli ffydd, chwalu mythau ac am y tynerwch dynol all oroesi. Drama ddeifiol a chignoeth, ac yn nhraddodiad Aled, yn ddifyr, cyffrous a heriol.
‘Da ni’n falch iawn o gyhoeddi enwau cast y ddrama drawiadol hon ac yn edrych ymlaen yn arw at gyd-weithio gyda Carwyn Jones, Siôn Pritchard a Dyfan Roberts yn ystod yr hydref.
Y Daith
Mawrth 29/10/2019 - Galeri, Caernarfon
Mercher 30/10/2019 - Galeri, Caernarfon
Iau 31/10/2019 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Gwener 01/11/2019 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Sadwrn 02/11/2019 - Theatr Twm o'r Nant, Dinbych
Llun 04/11/2019 - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch Theatr
Mercher 06/11/2019 - Theatr John Ambrose, Ruthin
Iau 07/11/2019 - Ysgol Godre's Berwyn, Bala
Gwener 08/11/2019 - Stiwdio Pontio, Bangor
Sadwrn 09/11/2019 - Stiwdio Pontio, Bangor
Mawrth 12/11/2019 - Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Mercher 13/11/2019 - Theatr Felinfach
Iau 14/11/2019 - Theatr Gartholwg, Pentre'r Eglwys
Gwener 15/11/2019 - Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Sadwrn 16/11/2019 - Glan yr Afon, Casnewydd
Rhyw dduw-ceiniog-a-dima yw Lleu bellach, ac yn y ddrama eiconoclastig yma mae Aled yn archwilio'r syniad o fyth, ac os yw myth yn chwalu oes rhywbeth yn dal yno sy'n parhau yn werthfawr? Drama ddifyr, deifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.
Fel theatr gymuned, mae Bara Caws yn awyddus i holl weithgareddau'r cwmni gael eu mwynhau gan bawb, gan gwynnwys pobl ag anabledd. Os am fanylion ynglyn a'r cyfleusterau sydd ar gael yn y canolfannau perfformio cysylltwch gyda: Linda Brown 01286 676335 / linda@theatrbaracaws.com neu Mari Emlyn 01286 675869 / mari@theatrbaracaws.com.