Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?
Cartref > Sioeau > Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?

Oes Rhywun wedi gweld y Pernod King?
Mae’r presennol a’i bosibiliadau o ddifyrrwch yn gwibio heibio i’r ddau brif gymeriad: Hudson a Tegid, heb iddyn nhw sylweddoli – tan ei bod hi’n rhy hwyr.
Mae’r ddau yn gyfeillion agos ers dyddiau Aber ddiwedd y 70au, ac maen nhw wedi treulio pob Eisteddfod Genedlaethol (ar wahan i un) ers eu dyddiau coleg, efo’i gilydd.
Comedi (2 actor/sawl cymeriad) am werthfawrogi’r rŵan hyn yn hytrach na byw bywyd yn hiraethu am y gorffennol neu gynllunio at ddigwyddiadau’r dyfodol.
Ffrwyth llafur cynllun 'Sgen ti Syniad? (2) yw hwn a laniswyd yn mis Medi 2022, cynllun sy’n rhoi cyfle gwych i ni weithio gyda nifer o ymarferwyr â phosib a rhoi llwyfan i ddoniau hen a newydd!
Cast – Rhodri Evan, Llion Williams.
Cyfarwyddo - Betsan Llwyd.
Awdur - Mari Emlyn.
Swyddog Gwisgoedd - Lois Prys.
Bydd y sioe yn cael ei chyflwyno ar y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 5yh ar Nos Fercher y 6ed, Nos Iau y 7fed, a Nos Wener yr 8fed yn y Gofod aml-swyddogaeth yn y Pentref Gwyddoniaeth.
