Bugail Geifr
Cartref > Sioeau > Sioeau Cyfredol > Bugail Geifr
Bugail Geifr
gan Aled Jones Williams
'Mae Bara Caws yn Hannar Cant oed! Sut i ymateb i hyn? Fyny i chi. Ond ymatebwch!
Fy ymateb i yw y Bugail Geifr. Pryddest, dwi wedi ei galw hi. Ar ffurf monolog. Ei hunig bwrpas hi yw talu gwrogaeth ddiflewyn ar dafod i’r Cwmni oddi wrtha i yr wyf wedi cael y fraint o ysgrifennu sawl sioe iddo.
Deud Diolch ydy’r unig nod. Ond mewn ffordd sy’n gwneud i ni holi’r cwestiwn: Be’ ydy’ calon theatr? Mae’n gân o fawl i’r theatr hefyd.
Mae’r Bugail Geifr yn llawn ysbrydion. Un actor… ond yn drybola o bobol.’ - Aled Jones Williams
Dyma ddrama theatr olaf y cawr o ddramodydd Aled Jones Williams sydd wedi bod yn rhan o’r tirlun theatrig yma yng Nghymru ers dros dair degawd.
Ei drysor olaf? Anrheg i Theatr Bara Caws wrth iddyn ni ddechrau ar ddathliadau pen-blwydd 50 oed.
Drama wedi ei hysgrifennu’n arbennig i Dyfan Roberts, un o sylfaenwyr y Cwmni nol yn 1976/77 - Ffion Dafis
Cast: Dyfan Roberts
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Manylion y daith:
I gyd am 7:30yh oni bai am 7:45yh yn Theatr Clwyd:-
03 + 04/11 – Galeri Caernarfon
galericaernarfon.com / 01286 685 222
05/11 – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
neuadddwyfor.cymru / 01758 704 088
06/11 – Stiwdio Pontio, Bangor
07/11 – Theatr Derek Williams, Y Bala
09/11 – Stiwdio Weston, Theatr Clwyd
10/11 – Theatr Felinfach
11/11 – Yr Egin, Caerfyrddin
12 a 13/11 – Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg