Sgyrsiau y Soffa Goch
Cartref > Newyddion > Sgyrsiau y Soffa Goch
Unwaith y mis, yn fyw ar Instagram, o Chwefror 12fed ymlaen bydd Ffion yn cael clonc efo unigolion sy’n ymwneud â Theatr Bara Caws a’r byd theatrig yn ehangach o’r soffa goch yn ystafell ymarfer y cwmni.
Yr awdur a’r actores Mared Llewelyn ydi’r gwestai cyntaf gan ei bod hi, fel Ffion, wedi ymgymryd â rôl newydd o fewn y cwmni.
Bydd y Cyfarwyddwr Artistig a’r Cadeirydd Bwrdd newydd sbon yn barod am eich cwmni a’ch cwestiynau am 8yh nos Iau nesaf!