Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?

Cartref > Sioeau > Archif > Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?

Oes Rhywun wedi gweld y Pernod King? 

Drama fer gan Mari Emlyn

Mae Tegid (Llion Williams) a Hudson (Rhodri Evan) wedi treulio pob Eisteddfod Genedlaethol efo’i gilydd (ar wahân i un) ers eu dyddiau coleg, ddiwedd y 70au.

Mae wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fel bywyd: mae’n hedfan heibio, a’r dydd Sadwrn cyntaf yn ddydd Sadwrn olaf cyn i ni droi.

Ymunwn â’r ddau yn nhafarn yr Eagles ar brynhawn Sadwrn olaf a gwlyb Eisteddfod Llanrwst.

Mae’r ddau, fel pob blwyddyn arall, wedi treulio’r holl wythnos yn hiraethu am hen ‘lejands’ o eisteddfodau neu’n cynllunio’r sesh fawr ‘hilêriys’ nesaf. Tueddu i edrych yn ôl neu edrych ymlaen wna Tegid, heb flasu’r presennol a phob eisteddfod yn un niwl. Ond a all Hudson ei berswadio i fwynhau’r rŵan hyn, cyn ei bod hi’n rhy hwyr?

Mae’r gorffennol a’r presennol yn gymdogion agos a phob Eisteddfod yn ein hatgoffa o’r bobl fu’n rhannu’r profiad efo ni. Tra pery’r Eisteddfod mae’r bobl fu efo ni ar un adeg yn rhan o’n stori ni ac yn dal yn byw efo ni.

Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?

“Creu chwedle mae rhywun mewn ’steddfode ’nde?”  Tegid.

Ffrwyth llafur cynllun 'Sgen ti Syniad? (2) yw hwn a laniswyd yn mis Medi 2022, cynllun sy’n rhoi cyfle gwych i ni weithio gyda nifer o ymarferwyr â phosib a rhoi llwyfan i ddoniau hen a newydd!

Cast – Rhodri Evan, Llion Williams.

Cyfarwyddo - Betsan Llwyd.

Awdur - Mari Emlyn.

CANLLAW OED 12+ (AMBELL I REG)

Bydd y sioe yn cael ei chyflwyno ar y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 5yh ar Nos Fercher y 6ed, Nos Iau y 7fed, a Nos Wener yr 8fed yn y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth.

Bydd mynediad am ddim gyda thocyn i'r maes.

Mari Emlyn

Byddwn hefyd yn cynnal y sioe ar:-

Dydd Gwener, Awst 1af

Tafarn y Plu, Llanystumdwy

🎟️TOCYNNAU

Dydd Sadwrn, Awst 2il

Theatr Twm o'r Nant

🎟️ TOCYNNAU - 01745 812 349.

Tocynnau hefyd ar gael yn Siop Clwyd, Dinbych. 

TAITH FACH HYDREF 2025

I gyd am 7:30yh

Dydd Mawrth, Hydref 21ain

Theatr y Gromlech, Crymych (Gŵyl Bro'r Preseli)

🎟️ TOCYNNAU

Tocynnau hefyd ar gael yn Siop Sian, Crymych, ac Awen Teifi, Aberteifi. 

Dydd Mercher, Hydref 22ain

Theatr Felinfach

🎟️ TOCYNNAU

Dydd Iau, Hydref 23ain

Clwb y Bont, Pontypridd

🎟️ TOCYNNAU

Dydd Gwener, Hydref 24ain

Neuadd Llanofer, Caerdydd

🎟️ TOCYNNAU

Pob sioe